Dathlu canmlwyddiant Benjamin Britten

  • Cyhoeddwyd
Benjamin Britten
Disgrifiad o’r llun,
Mae tri pherfformiad arbennig yn dathlu canmlwyddiant Benjamin Britten a'i gysylltiad â Chymru

Mae canmlwyddiant y cyfansoddwr Benjamin Britten a'i gysylltiadau â Chymru yn cael eu nodi gyda thri pherfformiad arbennig.

Mae'r ŵyl gerddorol, Gŵyl Gregynog, sydd fel arfer yn digwydd yn yr haf, wedi ymestyn ei thymor eleni i gynnwys cyngherddau i ddathlu'r canmlwyddiant ar 22 Tachwedd.

Bydd y pianydd Llŷr Williams yn rhoi datganiad yn Theatr Reardon Smith o fewn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Fe roddodd Britten ddatganiad yn yr un lleoliad ym 1967.

Yn ogystal bydd y tenor John Bacon a'r pianydd Helen Mills yn perfformio yn Walshaw Lodge, Prestatyn.

Yn y 1930au ysgol o'r enw Clive House oedd yr adeilad ac roedd brawd hŷn Benjamin Britten, Robert Britten, yn brifathro yno.

Treuliodd Britten nifer o wyliau yn yr ysgol yn ystod y 1930au, lle byddai'n hyfforddi'r bechgyn i chwarae criced ac yn mwynhau mynd am dro yn yr ardal.

Yno cafodd ei ysbrydoli i gyfansoddi Friday Afternoons, Op. 7, un o'i weithiau cynharaf.

Bydd y soprano Jennifer Walker a'r delynores Bethan Semmens yn rhoi datganiad fydd yn cynnwys detholiadau o Friday Afternoons a threfniadau o alawon gwerin Cymreig gan Britten ar Lwyfan Glanfa, Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd.

Dywedodd Dr Rhian Davies, Cyfarwyddwraig Artistig Gŵyl Gregynog: "Mae'n bleser bod yn ganolbwynt dathliadau canmlwyddiant Benjamin Britten yng Nghymru ar 22 Tachwedd 2013."

Yn 1972 ymwelodd y cyfansoddwr â Gŵyl Gregynog pan roedd Dr Davies yn 11 mlwydd oed ac mae ganddi atgofion cryf o'r digwyddiad.

"Mi es i'r ŵyl fel gwestai fy mam, Jayne Davies, oedd hefyd yn gerddor, ac roedd y lle o dan ei sang, yn gwbl orlawn.

"Ar ôl y cyngherdd cefais fy nghyflwyno i Britten. Roedd yn rhyfeddol cwrdd ag ef ac roedd yn garedig iawn, yn gynnes ac yn hael.

"Dwi'n cofio Peter Pears yno hefyd ac mae dal gen i fy llyfr llofnodion gyda llofnod y ddau ynddo, ochr yn ochr."

Er ei bod yn ifanc ar y pryd roedd Dr Davies yn sylweddoli pa mor arwyddocaol oedd y cyfarfod.

"Roeddwn yn ymwybodol fy mod yn cwrdd â dyn mawr, y cyfansoddwr byw gorau yn y wlad.

"Rwyf yn cofio hefyd y diwrnod pan fu farw a pha mor drist oedd fy mam a minnau.

"Roedd wedi bod yn fraint mawr cwrdd ag ef yng Ngregynog."

Yn ogystal â'i ymweliad â Gŵyl Gregynog bu Britten yn perfformio yn Theatr Reardon Smith, Caerdydd, yn 1967 ac yng Ngŵyl Caerdydd yn 1971 yn westai i Alun Hoddinott.

Roedd ganddo gysylltiad arall â Chymru trwy ei gyfeillgarwch â'r gyfansoddwraig Grace Williams.

Paratodd y ddau ohonynt drefniannau o ganeuon gwerin Cymraeg ar gyfer Peter Pears.

Meddai Dr Davies: "Roedd ymweliad Benhamin Britten â Gŵyl Gregynog ym 1972 yn garreg filltir, nid yn unig i'n gŵyl, ond hefyd i fi'n bersonol.

"Mae'n addas felly ein bod yn cynnwys pen-blwydd Britten yn 100 oed i raglen yr Ŵyl eleni."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol