Gwrthdrawiad Ponthir: Cwpl priod wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi enwi'r dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhonthir ddydd Mercher diwethaf.
Bu farw Denis Drew, 86, yn yr ysbyty ychydig ddyddiau ar ôl y digwyddiad.
Roedd ei bartner Joyce, oedd hefyd yn 86, wedi marw'n fuan wedi'r gwrthdrawiad.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ger neuadd y pentref ar y B4236 Ffordd Caerllion am tua 7:30yh, ddydd Mercher diwethaf, wedi i gar glas daro'r cwpl oedd yn cerdded.
Mae dynes leol 20 oed wedi ei harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ac wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 a nodi'r cyfeirnod 411 13/11/13.
Straeon perthnasol
- 19 Tachwedd 2013
- 14 Tachwedd 2013