'Polisi ffioedd yn costio £150m mwy na'r disgwyl'
- Cyhoeddwyd

Bydd polisi cymhorthdal ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru flwyddyn nesaf yn costio dros £150m yn fwy na'r disgwyl pan gafodd y polisi ei gytuno, yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru (SAC).
Mae nhw'n honni nad oedd cabinet llawn y llywodraeth wedi eu rhybuddio am y costau posib pan gafodd y penderfyniad ei wneud yn 2010. Bydd cost y cymhorthdal i fyfyrwyr o Gymru sy'n mynd i brifysgolion yn Lloegr yn cyrraedd £68m y flwyddyn nesaf hefyd yn ôl yr adroddiad.
Mae SAC yn dweud nad oedd gweinidogion wedi ystyried yr holl opsiynau yn iawn wrth benderfynu ar y polisi. Mae'n dweud bod cymeradwyaeth wedi ei roi yn seiliedig ar amcangyfrifon o fis Tachwedd 2010 y byddai ffioedd dysgu yn £7000, o'i gymharu â ffioedd ymhell dros £8000 nawr.
Mae hyn yn golygu bod cost y polisi wedi cynyddu o 24%, o £653m i £809m ar gyfer y cyfnod o bum mlynedd rhwng 2012/13 a 2016/17, meddai SAC. Ond mae'r llywodraeth yn dweud bod yr adroddiad yn dod i gasgliad bod system gyllido'r polisi "wedi ei gostio ac yn gynaliadwy".
Dywedodd y cyn Weinidog Addysg, Leighton Andrews bod casgliad SAC yn "wall amlwg", gan honni bod y llywodraeth yn ymwybodol o'r costau uwch posib.
Polisi dadleuol
O dan y polisi, mae myfyrwyr o Gymru yn cael cymhorthdal hyd at £5500 o'i ffioedd dysgu, lle bynnag yn y DU maent yn astudio.
Ddydd Llun, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Huw Lewis y byddai adolygiad o'r polisi, ond dywedodd ei fod yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy hyd at o leiaf 2016. Mae sefydliadau addysg uwch wedi honni bod y polisi yn cadw degau o filiynau o bunnau oddi wrth brifysgolion Cymreig.
Daeth archwiliad SAC i'r casgliad bod sefyllfa ariannol prifysgolion Cymru yn dda ar y cyfan, ond bod rhai yn wynebu heriau sylweddol mewn hinsawdd cystadleuol.
Y llynedd, cafodd £34m ei roi i fyfyrwyr o Gymru oedd yn astudio y tu allan i Gymru. Mae'r SAC yn amcangyfrif y bydd y ffigwr yna yn cynyddu i £50m eleni a £68m y flwyddyn nesaf.
Mae'r Swyddfa Archwilio yn dweud bod y llywodraeth wedi bod yn rhy optimistaidd ar be fyddai'r ffi gyfartalog dros y DU wrth benderfynu ar y polisi, ac nad oedd pob aelod cabinet yn ymwybodol o'r costau os byddai'r ffioedd yn uwch.
'Rhy optimistaidd'
Mae'r adroddiad yn dweud: "Penderfynodd Llywodraeth Cymru ar y polisi yn seiliedig ar dybiaeth optimistaidd y byddai'r ffi gyfartalog yn £7,000 yn 2012/13 dros Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a gyda thybiaeth o ffi o £2,190 yn yr Alban.
"Er bod swyddogion wedi creu model ar sail ffi o £9,000 dros Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ni chafodd y model yma ei gyflwyno i'r cabinet llawn wrth wneud y penderfyniad.
"Roedd y model £9,000 wedi ei rannu gyda'r Gweinidog Addysg ar y pryd (Leighton Andrews) a rhai aelodau eraill o'r cabinet."
Hefyd, mae'n nodi nad oedd y dadansoddiad gafodd ei gynnal ar y pryd ar ffactorau fel nifer myfyrwyr a faint fyddai'n mynd dros y ffin yn ddigonol.
Yn ôl cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, mae'r adroddiad yn codi cwestiynau am benderfyniadau'r llywodraeth.
Digon cadarn?
"Mae'r adroddiad yn codi cwestiynau pwysig am ba mor gadarn oedd polisïau Llywodraeth Cymru yn 2010 ac am faterion eraill yn ymwneud a chyllid myfyrwyr a rheoleiddio addysg uwch, yn enwedig, digonolrwydd y trefniadau i brosesu ceisiadau am gyllid myfyrwyr i ddiogelu yn erbyn twyll," meddai Darren Millar AC.
"Mae'n glir bod angen mwy o waith i fonitro ac adolygu effaith y polisi mewn mwy o fanylder, ac i ateb y cwestiwn am gydraddoldeb i ffioedd myfyrwyr rhan amser."
Dywedodd Prif Archwilydd Cymru, Huw Vaughan Thomas: "Mae'n dda gweld bod sefyllfa ariannol sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn iach, ond mae'n glir eu bod yn wynebu heriau ac ansicrwydd.
"Yn enwedig, ni fydd effaith lawn ffioedd dysgu uwch a'r Cymhorthdal Ffioedd Dysgu yn glir am ddwy neu dair blynedd, wrth i fwy o fyfyrwyr ddaeth i mewn i addysg uwch cyn 2012/13 adael y system."
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod casgliad yr adroddiad ar y cyfan yn bositif, ac maent yn croesawu hynny.
"Mae adroddiad SAC yn cadarnhau bod swyddogion a gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi ystyried os oedd y polisi ffafriol yn fforddiadwy, ac effaith y polisi yma ar sefydliadau addysg uwch yng Nghymru," meddai llefarydd.
"Roedd hi'n glir bod y polisi yn fforddiadwy gyda ffioedd uwch ac mae hynny yn amlwg yn yr adroddiad a'r cadarnhad ei fod wedi ei gyllido am weddill bywyd y llywodraeth yma ac ymhellach.
"Mae'n siomedig i weld bod rhai wedi dewis darllen rhai darnau o'r adroddiad ac yn edrych i danseilio beth sydd yn bolisi cynaliadwy a phoblogaidd sydd wedi cael ei groesawu gan rieni a myfyrwyr.
"Mae disgwyl i'r Gweinidog wneud datganiad i aelodau Cynulliad ar ddarganfyddiadau'r adroddiad a byddwn yn ymateb i SAC mewn da bryd."
Ymateb
Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu'r llywodraeth yn hallt.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar Addysg, Angela Burns: "Cafodd costau eu tanbrisio a'u seilio ar ffigyrau annibynadwy. Mae'r polisi yn parhau i roi degau o filiynau o bunnoedd i brifysgolion Lloegr ac fel mae'r adroddiad yn ei ddangos, gall y cap ar niferoedd myfyrwyr atal myfyrwyr o Gymru rhag astudio mewn prifysgolion Cymreig."
Dywedodd llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts AM: "Mae'r adroddiad yn dangos pa mor anghywir oedden nhw yn 2010 ac yn parhau i fod nawr.
"Mae'n dangos yn glir bod disgwyl i'r gost fod yn 'sylweddol uwch' na'r disgwyl. Mae'r ffaith eu bod yn gwadu hyn yn achos pryder."
Dywedodd llefarydd Addysg Plaid Cymru, Simon Thomas AC: "Yr oedd y polisi y cytunodd Plaid Cymru ag ef pan oeddem mewn llywodraeth yn seiliedig ar ragamcanion is o lawer - ffioedd o £7,000 y flwyddyn.
"Fodd bynnag, mae'r polisi a weithredwyd mewn gwirionedd 24% yn uwch na hyn. Pan welsom fod ffioedd dysgu yn uwch o lawer na'r hyn a amcangyfrifwyd, ni oedd y cyntaf i rybuddio y byddai angen adolygiad."
Dywedodd y cyn gweinidog addysg, Leighton Andrews AM: "Mae'n dda gweld bod yr Archwilydd yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'r polisi yn effeithiol.
"Ond, mae gwall amlwg yn ei adroddiad. Mae'n honni bod cost y polisi wedi cynyddu ers y penderfyniad cyntaf. Mewn gwirionedd mae manylion ei adroddiad yn dangos ei fod wedi lleihau.
"Mae ei ffigyrau yn cymharu amcangyfrif wedi ei seilio ar ffioedd o £7000 o fis Tachwedd 2010 - £653m - gyda'r amcangyfrif diweddaraf wedi eu seilio ar ffioedd o £9000 - £809m. Ond fe wnaeth y llywodraeth amcanion wedi seilio ar ffioedd o £9000 hefyd a dylai gymharu'r ddau beth tebyg.
"Mae ei gasgliad bod costau wedi cynyddu ers amser penderfyniad y polisi yn anghywir. Mae wedi disgyn.
"Fe wnaeth yr amcangyfrif cyntaf ar ffioedd o £9000 roi ffigwr o dros £1 biliwn o'i gymharu gyda'r amcangyfrif diweddaraf o £809 miliwn - fel mae ei adroddiad yn dangos ym mharagraff 1.43.
"Mae'n siomedig gweld bod yr Archwilydd wedi cuddio'r ffaith ym mharagraff 1.43 yn lle ei amlygu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd4 Medi 2013