Lansio cynllun i arbed £25m
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun newydd wedi ei lansio gan Lywodraeth Cymru i geisio arbed £25m o fewn y sector gyhoeddus.
Bydd Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Cymru yn ceisio arbed arian a chreu cyfleoedd newydd i fusnesau ennill cytundebau gwaith yn y sector gyhoeddus.
Dywed y llywodraeth bod £4 biliwn yn cael ei wario gan y sector bob blwyddyn, a'r gobaith yw sicrhau bod trethdalwyr yn cael gwerth am arian drwy "gael gwared ar ddyblygu a chynyddu effeithiolrwydd".
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt bod y cynllun yn "hanfodol" er mwyn gwneud y mwyaf o arian cyhoeddus mewn cyfnod o doriadau.
70 sefydliad
Bydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Cymru, ym Medwas, Caerffili, yn gyfrifol am reoli cytundebau gwaith a gwariant cyffredin i'r sefydliadau sydd yn rhan o'r cynllun.
Mae dros 70 o'r rhain, yn cynnwys Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd, yr Heddlu a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y llywodraeth bod rhwng 20% a 30% o gyfanswm gwariant caffael y sector gyhoeddus yn mynd ar "nwyddau a gwasanaethau cyffredin ac ailadroddus" gan gynnwys dodrefn, gwasanaethau proffesiynol, offer cyfrifiadurol a chludiant.
Bydd y gwasanaeth newydd yn gyfrifol am wariant y sefydliadau yma, a'r gobaith yw arbed arian drwy leihau dyblygu.
'Effaith enfawr'
Mae Ms Hutt wedi dweud bod y gwasanaeth newydd yn hollbwysig er mwyn arbed arian a sicrhau swyddi.
"Mae'r ffordd yr ydyn ni'n defnyddio'n £4.3 biliwn o arian caffael cyhoeddus yn parhau i gael effaith enfawr ar swyddi yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
"Wrth i gyllidebau cyrff cyhoeddus dynhau, mae'n rhaid i ni chwilio am ffyrdd newydd o arbed arian. Mae gwella caffael cyhoeddus yn hanfodol er mwyn gwneud y mwyaf o bob ceiniog a chyfeirio adnoddau i'r rheng flaen."
Honnodd bod y gwasanaeth yn ddull arloesol fyddai'n hybu cyd-weithio ar draws ffiniau.
"Bydd y Gwasanaeth yn dilyn yr arferion gorau a ddisgrifir yn natganiad Polisi Caffael Cymru a gyhoeddwyd y llynedd.
Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i gyflenwyr ymwneud â'r broses, a hefyd yn rhoi cyfleoedd allweddol i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol gyda busnesau yng Nghymru."