Paul Scarfi yw Arwr Tawel 2013
- Cyhoeddwyd

Mae gwirfoddolwr sy'n helpu i redeg cynllun pêl-droed i bobl digartref wedi ennill Gwobr Arwr Tawel Byd Chwaraeon BBC Cymru.
Mae Paul Scarfi o Gasnewydd yn hyfforddwr gwirfoddol i Street Football Wales, ac mae hefyd yn rheolwr tîm y Welsh Dragons sydd wedi cystadlu yng Nghwpan y Byd i'r Digartref.
Geraint Edwards enwebodd Paul, a dywedodd wrth BBC Cymru: "Roeddwn i'n ddigartref, yn defnyddio llawer o gyffuriau... roedd o'n gymorth i mi stopio eu defnyddio. Hebddo fo, ni fuaswn i lle'r ydw i ar hyn o bryd."
Wedi iddo ymddangos yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru ar Ragfyr 9, bydd Paul yn cynrychioli Cymru yng ngwobrau'r Sports Personality of the Year yn Leeds ar Ragfyr 15.
Dyma'r degfed tro i wobr yr Arwr Tawel gael ei roi, a'i fwriad yw cydnabod y gwaith arbennig mae unigolion yn ei wneud mewn chwaraeon lleol, ac sy'n rhoi eu hamser yn wirfoddol.
Mae Paul yn teithio o Gasnewydd i Abertawe ar gyfer sesiynau hyfforddi bob wythnos, a chafodd glod am gymryd gwyliau o'i waith gydag elusen ddigartrefedd i wneud ei waith gwirfoddol.
Mae hefyd wedi gweithio i ddenu mwy o ferched i gymryd rhan mewn pêl-droed.
Dywedodd Keri Harris o Street Football Wales: "Dim ond pan welais pa mor effeithiol mae Paul yn gweithio hefo pobl o gefndiroedd gwahanol a faint mae'n gofalu drostyn nhw a'r cynllun oeddwn i'n hapus i roi cyfrifoldeb o'r tîm iddo.
"Mae ganddo frwdfrydedd enfawr i'r rôl ac mae wedi helpu i ymestyn y cynllun dros y blynyddoedd."
Roedd Paul ei hun wedi syfrdanu pan gafodd wybod ei fod wedi ennill.
"Galla' i ddim credu fy mod i wedi ennill pan mae gymaint o bobl eraill ardderchog yn gwneud pethau ardderchog mewn llefydd gwahanol."
Straeon perthnasol
- 17 Hydref 2013