Cymeradwyo mesur costau trin cleifion asbestos
- Published
Mae mesur fydd yn galluogi i gostau trin cleifion am effeithiau asbestos yng Nghymru gan fusnesau neu gwmnïau yswiriant wedi ei basio gan aelodau Cynulliad.
Mae disgwyl i'r ddeddf godi hyd at £1m bob blwyddyn i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Cafodd y mesur ei gyflwyno gan Mick Antoniw o'r blaid Lafur, sy'n dweud y bydd yn helpu'r rheiny sydd wedi eu heffeithio gan "y clefyd ofnadwy yma".
Ond mae sawl wedi cwestiynu os yw'r mesur yn dod o fewn pwerau'r Cynulliad, gyda'r diwydiant yswiriant yn codi nifer o bryderon.
Cyn dod yn aelod Cynulliad, roedd Mr Antoniw yn gyfreithiwr gyda chwmni Thompsons, sydd wedi cynrychioli nifer o ddioddefwyr o effeithiau asbestos a'u teuluoedd.
Cyn i'r mesur gael ei basio, dywedodd: "Mae hi'n deg i gostau meddygol y GIG gael eu hawlio yn ôl gan y rhai oedd yn gyfrifol am y clefyd a'i ddefnyddio i roi mwy o gefnogaeth i ddioddefwyr a'u teuluoedd - er enghraifft gall nyrs ganser gostio £50,000 bob blwyddyn.
"Gallwn gyflogi 20 nyrs ychwanegol neu gymysgedd o nyrsys a chwnsleriaid neu dalu am fwy o ymchwil i'r achosion a'r driniaeth o glefyd asbestos.
"Rydw i'n credu y gall y ddeddf newydd yma wella safon bywyd y rheiny sy'n dioddef oherwydd y clefyd ofnadwy yma."
Ym mis Rhagfyr y llynedd dywedodd y Llywydd Rosemary Butler bod y mesur o fewn pwerau'r Cynulliad.
Mae Cymdeithas yr Yswirwyr Prydeinig wedi ysgrifennu at Ms Butler i godi nifer o bryderon am y mesur a'i gyfreithlondeb.
Straeon perthnasol
- Published
- 3 Mehefin 2013
- Published
- 16 Ionawr 2013
- Published
- 5 Rhagfyr 2012