Tân mewn canolfan arddio'n achosi 'difrod mawr'
- Published
image copyrightMatthew Horwood
Mae Heddlu'r De'n dweud bod 'difrod mawr' i ganolfan arddio Blooms yn Llaneirwg ger Caerdydd, yn dilyn tân yno.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i'r ganolfan tua 10yh neithiwr.
Dywedodd y swyddogion bod y tân yn symud yn gyflym drwy'r adeilad oherwydd gwyntoedd cryfion a nwyddau yn y ganolfan, oedd yn cynnwys silindrau nwy a thân gwyllt.
Cafodd trigolion eu symud o tri chartref gerllaw, gan bod y tân yn lledaenu'n gyflym.
Chafodd neb eu hanafu, ac mae'r Gwasanaeth Tân yn credu eu bod nhw wedi llwyddo i achub hyd at 30% o'r ganolfan.
Bu 46 o swyddogion yn rhan o'r ymdrech i ddiffodd y tân ac mae pobl erbyn hyn wedi cael dychwelyd i'w tai.
Bydd ymchwiliad swyddogol rwan yn dechrau i beth achosodd y tân.