JJ Williams: 'Capiau'n cael eu dibrisio'
- Cyhoeddwyd

Mae JJ Williams wedi cwestiynu gwerth gêm Cymru yn erbyn Tonga, fydd yn cael ei chynnal yn Stadiwm y Mileniwm nos Wener.
Yn ogystal â chwyno bod gemau yn erbyn timau llai yn dibrisio gwerth cap, mae Williams hefyd yn honni mai arian yw'r prif reswm dros drefnu'r gêm.
Dywedodd Williams, cyn asgellwr Cymru a'r Llewod: "Rwy'n credu mai rhoi cyfle i rhai chwaraewyr yw'r gêm yn erbyn Tonga ddydd Gwener.
"Dydw i ddim yn gefnogol iawn o hynny a dweud y gwir - capio pobl dydych chi ddim wir yn eu hadnabod."
Dyw Williams ddim yn derbyn mai oherwydd fod gan Gymru ddyfnder yn y garfan mae Warren Gatland wedi penderfynu newid 11 allan o'r 15 wnaeth chwarae'n erbyn yr Ariannin.
Leigh Halfpenny, George North, Rhodri Jones a Justin Tipuric yw'r unig rai wnaeth chwarae ddydd Sadwrn diwethaf sydd wedi cadw eu lle yn y tîm.
Bydd asgellwr ifanc y Dreigiau Hallam Amos, 19, yn ennill ei gap cyntaf.
"Rydych yn rhoi y capiau yma i ffwrdd ac yn ei ddibrisio ychydig bach, ond dyna'r ffordd mae'r gêm fodern wedi mynd," meddai Williams.
"Darllenais yn rhywle ei fod ef [Gatland] wedi gwobrwyo 53 cap y tymor yma, sy'n hollol hurt.
"Dim ond 30 o gapiau gefais i drwy'n ngyrfa. Mae e i weld yn ffigwr pitw nawr ond dim ond chwe gem y flwyddyn oedd yna bryd hynny.
"Y gêm yma ddydd Gwener, arian ar gyfer Undeb Rygbi Cymru yw e yn y pen draw."
Bydd Cymru'n chwarae Awstralia ar 30 Tachwedd i gloi gemau'r hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2013