Saethu Casnewydd: Arestio dau arall

  • Cyhoeddwyd
Casnewydd
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r heddlu yn dweud fod pobl wedi saethu at bobl eraill yn dilyn gwrthdrawiad

Mae Heddlu Gwent wedi arestio dau ddyn arall mewn cysylltiad â saethu a ddigwyddodd yng Nghasnewydd ar 3 Medi.

Dywedodd yr heddlu fod dau ddyn, un yn 22 a'r llall yn 46, wedi eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio.

Maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra mae'r heddlu yn ymchwilio.

Mae'r heddlu eisoes wedi cyhuddo Brogan Joseph Hooper, 20, a Lewis Bridge, 22, o geisio llofruddio yn dilyn y digwyddiad ac mae dyn arall sy'n 24 wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Ar 3 Medi fe wnaeth rhywrai saethu at gerbyd yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd Cas-Gwent, am tua 11:30yh.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol