Pallial: Rhyddhau dyn ar fechniaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 62 oed gafodd ei arestio yn rhan o Ymgyrch Pallial yn gynharach yr wythnos hon wedi ei ryddhau ar fechniaeth.
Cafodd y dyn, o'r Wyddgrug yn Sir Fflint, ei arestio ar Dachwedd 20 ar amheuaeth o nifer o droseddau o ymosod yn anweddus a chreulondeb tuag at blant.
Y dyn oedd y 15fed person i gael ei arestio yn rhan o Ymgyrch Pallial, sy'n ymchwilio i honiadau o droseddau rhyw hanesyddol yng ngogledd Cymru.
Honnir i'r troseddau gael eu cyflawni yn erbyn tri o fechgyn ac un ferch rhwng 1973 a 1976, pan roedden nhw rhwng 10 a 15 oed.
Mae'r dyn wedi ei ryddhau ar fechniaeth hyd at fis Mawrth.
Yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol sy'n cynnal yr ymchwiliad, dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cyffredinol Keith Bristow.
Straeon perthnasol
- 20 Tachwedd 2013
- 6 Tachwedd 2013