Dyn yn euog o lofruddio pensiynwraig
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Wrecsam wedi ei gael yn euog o lofruddio pensiynwraig wrth geisio dwyn arian o'i chartref.
Roedd Alexandros Wetherill, 24 wedi gwadu llofruddio Glynis Solmaz, 65, yn ei chartref yn Wrecsam ym mis Chwefror.
Roedd wedi cyfaddef dynladdiad, ond fe'i cafwyd yn euog o lofruddiaeth wedi dyfarniad trwy fwyafrif.
Roedd dyn arall, Christopher Curran, eisoes wedi ei gael yn ddieuog o lofruddiaeth.
Dywedodd yr erlyniad mai'r man cychwyn am drosedd o'r fath fyddai 30 o flynyddoedd yn y carchar. Bydd Wetherill yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod Wetherill wedi mynd i gartref Ms Solmaz gan gredu bod £40,000 mewn llofft yno.
Fe wnaeth e ei thagu yn ei hystafell wely ar ystad Parc Caia ym mis Chwefror.
Roedd Wetherill a Christopher Curran, 34, wedi gwadu llofruddiaeth mewn achos fis diwethaf.
Cafwyd Curran yn ddieuog, ond methodd y rheithgor â chytuno yn achos Wetherill.
Ni ddangosodd Wetherill unrhyw emosiwn, ond ysgydwodd ei ben wrth i'r dyfarniad gael ei gyhoeddi ddydd Iau.
Cafodd Wetherill ei gadw yn y ddalfa a bydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener.
Dywedodd Simon Medland QC ar ran yr erlyniad mai'r man cychwyn o ran dedfryd mewn achos o lofruddiaeth yn y fath amgylchiadau fyddai 30 mlynedd dan glo.
Yn gynharach dywedodd wrth y rheithgor: "Talodd [Glynis Solmaz] gyda'i bywyd a chafodd ei gadael wedi crychu ar lawr ei llofft, wedi ei hanafu ac yn marw i ddechrau, ac wedyn yn farw."
Gafaelodd Wetherill ynddi a'i martsio o gwmpas y ty, a honnodd ei fod wedi tynhau ei afael ynddi wrth iddi hi ei fwrw ar ei ben gyda lamp.
Honnodd nad oedd wedi bwriadu ei hanafu ac nad oedd yn gwybod ei bod yn marw.
Roedd Wetherill a Curran, a dau ddyn arall, David Lovell, 29 a chyn fab-yng-nghyfraith Ms Solmaz, Christopher Natt, 52 wedi pledio'n euog i gynllwynio i ddwyn o'i chartref.
Dywedodd Mr Medland: "Roedd angen delio gyda hi. Roedd angen iddyn nhw sicrhau na fyddai hi'n gallu rhoi tystiolaeth yn eu herbyn.
"Y pris a dalodd hi am fod yn ei chartref ar y noson honno oedd ei bywyd."
Dangosodd archwiliad post mortem fod Ms Solmaz wedi dioddef anafiadau oedd yn gyson gyda phwysau "sylweddol a maith" ar ei gwddf.
Dywedodd yr erlyniad fod Wetherill wedi gwneud hynny i'w threchu hi, tra bod Curran yn ceisio symud y sêff.
Wetherill wnaeth hynny yn y pen draw, ond bu'n rhaid iddo gael pas o'r lleoliad gan Lovell, gan fod Curran wedi gadael yn ei gerbyd.
Clywodd y llys fod yna rhyw £10,000 a gemwaith yn y sêff.