Tân mewn adeilad trwsio ceir
- Cyhoeddwyd
Mae diffoddwyr tân wedi bod yn taclo'r fflamau mewn uned ddiwydiannol yng Nghaerau, Caerdydd.
Mi ddechreuodd y tân yn ystod oriau man y bore.
Cafodd criwiau o orsafoedd Y Barri, Trelai, Caerffili a chanol Caerdydd eu hanfon i'r adeilad.
Y gred ydy mai trwsio ceir arbenigol maen nhw'n gwneud yn yr uned.
Does 'na neb wedi ei hanafu.