Y Gwyll: Mwy ar y gweill

  • Cyhoeddwyd

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd cyfres arall o'r gyfres ddrama dditectif, Y Gwyll.

Daeth y gyfres gynta' i ben nos Iau, ac yn ôl y sianel, mae wedi cael ymateb ffafriol yma yng Nghymru a thu hwnt.

Rwan, bydd penodau cynta'r Gwyll yn ymddangos ar rwydweithiau eraill sydd wedi prynu'r hawl i ddangos y gyfres.

Mae disgwyl i'r ail gyfres ymddangos ar S4C ymhen tua blwyddyn.

Meddai Comisiynydd Drama S4C, Gwawr Martha Lloyd:

"Roedd Y Gwyll yn gyfres arbennig o dda ac mae'n amlwg o'r ymateb cyhoeddus bod pobl o Gymru a'r tu hwnt wedi ei gwerthfawrogi'n fawr iawn. Mae diwedd y gyfres ar S4C yn codi mwy o gwestiynau am hanes y ditectif enigmatig, a mwy o awydd i weld mwy.

"Dwi'n falch iawn ein bod ni'n gallu cadarnhau nawr bod y stori yn cael ei datblygu ymhellach ar hyn o bryd, a bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol o ran pryd y bydd y gynulleidfa yn gallu gweld hyn ar S4C."