Pum undeb yn cefnogi Cwpan Heineken
- Cyhoeddwyd
Bydd Cwpan Heineken yn parhau y tymor nesa' yn ôl undebau Cymru, yr Alban, Iwerddon, Ffrainc a'r Eidal, er cynlluniau i greu twrnament newydd.
Yn ôl undeb Lloegr, roedden nhw wedi "synnu" na chawson nhw eu gwahodd i'r trafodaethau ddydd Iau.
Cyn hyn, roedd clybiau mawr Ffrainc a rhanbarthau Cymru wedi awgrymu y bydden nhw'n ymuno â'u cyfoedion o Loegr mewn cystadleuaeth 'Cwpan Pencampwyr Rygbi' o fis Medi 2014 ymlaen.
Dywed Premiership Rugby, y sefydliad sydd yng ngofal timau mwyaf llwyddiannus Lloegr, fod cynlluniau ar gyfer y gystadleuaeth honno yn parhau.
Anghytuno rhwng yr undebau a'r clybiau?
Wedi'r cyfarfod yn Nulyn ddydd Iau, cyhoeddodd undebau Cymru, yr Alban, Iwerddon, Ffrainc a'r Eidal ddatganiad ar y cyd, gan ddweud eu bod nhw'n sefyll "ochr yn ochr" yn eu cred mai'r "undebau, nid y clybiau ddylai fod yn rheoli cystadlaethau o'r fath".
Er cefnogaeth Undeb Rygbi Cymru i Gwpan Heineken, mae cwmni Premiership Rugby yn Lloegr yn ffyddiog y bydd clybiau rhanbarthau Cymru a thimau Ffrainc yn parhau i gefnogi twrnament newydd.
Meddai eu rheolwr gyfarwyddwr, Mark McCafferty:
"Dydyn ni ddim yn gweld tystiolaeth bod eu cefnogaeth yn cilio. Roedden ni'n gweithio gyda nhw [timau Ffrainc] ddydd Mercher ar ddatblygiad Cwpan y Pencampwyr.
"Dw'i hefyd yn hyderus o gefnogaeth rhanbarthau Cymru i'r Cwpan".
Cynlluniau'r gystadleuaeth newydd
Dechreuwyd cynlluniau ar gyfer cystadleuaeth Ewropeaidd newydd gan glybiau yn Lloegr a Ffrainc, oedd yn anhapus â meini prawf a dosbarthiad cyllid Cwpan Heineken.
Hysbysodd Premiership Rugby drefnwyr Cwpan Heineken eu bod nhw am adael y twrnament a'i chwaer gystadleuaeth, Cwpan Amlin, ym Mehefin 2012. Fe fynnon nhw bod eu clybiau'n rhydd i sefydlu cystadleuaeth o'r newydd yn dilyn cyfnod o rybudd o ddau dymor chwarae.
Ond yn ôl undebau'r gwledydd Celtaidd, fydd gan eu clybiau nhw ddim hawl i chwarae mewn cystadleuaeth os nad oes ganddi gefnogaeth y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB).
Dywedodd cadeirydd y bwrdd, Bernard Lapasset, mai'r undebau ddylai reoli pob cystadleuaeth, ac y byddai ei gyfundrefn ef yn sicrhau "y bydd gennym ni gystadleuaeth Ewropeaidd fydd yn ateb dibenion ei henw, fydd ddim yn cael ei dwyn gan ambell i genedl".
Dydi'r rhanbarthau Cymreig, na'r Ligue Nationale de Rugby (LNR) sy'n cynrychioli timau mawr Ffrainc, heb ymateb i'r datblygiadau diweddaraf.
Straeon perthnasol
- 21 Tachwedd 2013
- 24 Hydref 2013
- 22 Hydref 2013