Ymgyrchydd Greenpeace wedi ei ryddhau o'r carchar
- Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchydd efo Greenpeace wedi ei ryddhau ar ôl cael ei gadw mewn carchar yn Rwsia.
Cafodd Anthony Perrett, 32, o Gasnewydd ei arestio ym mis Medi ar ôl cynnal protest am lwyfan olew yn yr Arctig. Mae o'n un o drideg o bobl sydd yn wynebu cyhuddiadau o hwliganiaeth.
Yn ôl y mudiad Greenpeace, Mr Perrett ydy'r Prydeiniwr cyntaf i gael ei ryddhau o'r carchar yn St Petersburg.
Mae dyn arall, Kieron Bryan, 29, o Lundain hefyd wedi cael ei ryddhau ac mae rhagor yn disgwyl i gael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Mae'r 30 o ymgyrchwyr yn dal i wynebu achos posib oherwydd y brotest.
Hwyliau da
Dywedodd cariad Mr Perrett bod clywed ei lais wedi bod yn hyfryd:
"Mi roddodd ei gyfreithiwr ei ffon iddo fel ei fod e yn gallu ffonio fi o'r car.
"Mi oedd e wedi bod yn bryderus iawn yn disgwyl i glywed newyddion am gael ei ryddhau. Mae e wedi gwneud ffrindiau da iawn gyda'r person sydd yn rhannu cell gydag e ac mi oedd e wedi bod yn gwylio'r un llygoden tu allan i ffenestr ei gell."
Dywedodd Zaharah Ally ei fod mewn hwyliau da ac yn hapus: "Mi oedd e yn hyfryd i siarad gydag e. Mi oedd na lot o giglan, chwerthin a fy nghwestiwn cyntaf i oedd, 'Sut wyt ti?' Mi wnaethon ni jest siarad. Dyma'r cyfnod hiraf i ni beidio siarad gyda'n gilydd."
Mae'n dweud bod ei chariad wedi cael gwybod y bydd yn rhaid iddo aros yn St Petersburg ac mae hi yn gobeithio teithio i Rwsia i'w weld.
Yn ôl ymgyrchydd Greenpeace Ben Ayliffe mae'r newyddion heddiw yn galonogol: "Mae hon yn foment wych i Anthony a'i deulu a ffrindiau. Ond fydd y cyfan ddim drosodd tan ei fod e a'r gweddill yn medru mynd adref."