Dyn yn gwadu llofruddio Alfie Sullock

Michael Pearce
Image caption Bydd achos Mr Pearce yn cael ei gynnal fis Ebrill

Mae dyn 32 oed wedi pledio yn ddieuog i lofruddio babi chwe wythnos oed yn ne Cymru.

Ymddangosodd Michael Pearce, o Nelson yn Sir Caerffili, yn Llys y Goron Caerdydd drwy gyswllt fideo ddydd Gwener.

Bu farw Alfie Sullock, o ardal y Tyllgoed yng Nghaerdydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar Awst 20.

Ymosod oedd y cyhuddiad oedd Mr Pearce yn ei wynebu yn wreiddiol, ond cafodd y cyhuddiad ei newid i lofruddio wedi i'r bachgen farw.

Bydd achos yn cael ei gynnal ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.