Cheltenham 0-0 Casnewydd

Clwb Pêl-droed Casnewydd Image copyright Other

Cheltenham 0-0 Casnewydd

Sicrhaodd Casnewydd eu bod yn cadw'u lle yn y safleoedd ar gyfer y gemau ail gyfle wedi gêm ddi-sgôr yn Cheltenham ddydd Sadwrn.

Roedd y tîm cartre' yn edrych fel petai nhw am fynd ar y blaen yn yr ail hanner. Ond cafodd ymgais gan ymosodwr Cheltenham Jamie Cureton ei arbed gan gôl-geidwad Casnewydd Lenny Pidgeley, a methodd Cureton gyda pheniad 10 munud o'r diwedd.

Tarodd Conor Washington yn erbyn y postyn i'r ymwelwyr cyn yr egwyl.

Dyw Casnewydd ddim wedi colli yn eu pum gêm ddiwetha'.