Gwrthod cais cloddio glo brig ger Blaenafon

  • Cyhoeddwyd
Bryn Farteg
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Glamorgan Power am gloddio dros 250,000 tunnell o lo o'r safle ar Fryn Farteg

Mae cais i gloddio glo brig ger Blaenafon yn Nhorfaen wedi ei wrthod gan Lywodraeth Cymru.

Roedd y datblygwyr yn apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor i wrthod y cynllun ger cartrefi ac ysgol ar Fryn Farteg.

Ond cafodd yr apêl ei wrthod hefyd, oherwydd y byddai wedi torri rheol sy'n dweud bod rhaid i gloddio glo brig ddigwydd o leiaf 500m i ffwrdd o gartrefi.

Dywedodd y datblygwyr, Glamorgan Power bod y penderfyniad yn "anghredadwy", a rhybuddion nhw y gallen nhw ddechrau achos cyfreithiol.

Apel

Ym mis Chwefror, dywedodd y gweinidog â chyfrifoldeb am gynllunio, John Griffiths, ei fod yn bwriadu cymeradwyo'r cynllun, gafodd ei gyflwyno yn 2011.

Ond mae ei olynydd, Carl Sargeant - y Gweinidog dros Dai ac Adfywio - wedi ei wrthod.

Dywedodd nad oedd yn sicr y byddai'r tir yn cael ei adfer ar ôl i'r gwaith cloddio orffen.

Mae rheolwr gyfarwyddwr Glamorgan Power wedi dweud bod y penderfyniad yn "siomedig iawn".

"Dywedodd rhagflaenydd y gweinidog mewn llythyr ei fod yn bwriadu cymeradwyo'r cais, yna chwe mis yn ddiweddarach ac mae person newydd sydd wedi dod i benderfyniad gwahanol," meddai Bernard Llewellyn.

"Mae'n anghredadwy. Mae'n rhaid iddo fod yn rhywbeth gwleidyddol."

Mae Mr Llewellyn yn dweud bod y cwmni yn trafod dechrau adolygiad barnwrol.

"Dwi'n teimlo'n drist dros bobl y Farteg. Os ydych chi'n mynd yna, siarad hefo nhw, maen nhw eisiau hyn, pobl sydd ddim o'r ardal sydd yn ei erbyn.

"Byddwn ni wedi creu 35 o swyddi dros y pum mlynedd nesaf ac wedi adfywio'r ardal. Rydym wedi ein siomi."

'Balch iawn'

Un sydd wedi gwrthwynebu'r cynllun ers y dechrau yw'r Dr John Cox, sy'n byw yn lleol.

Dywedodd ei fod yn falch iawn, ond cwestiynodd pam bod gymaint o amser wedi pasio cyn gwneud penderfyniad.

"Pam bod nhw wedi cynnal apêl yn y lle cyntaf pan fo hynny yn erbyn eu canllawiau eu hunain?" meddai.

"Byddwn yn gofyn pam ei fod wedi cymryd dwy flynedd i gyrraedd y penderfyniad yma ac mae'n siom nad oedd yr holl dystiolaeth roedden ni wedi ei gyflwyno wedi ei gynnwys yn yr adroddiad.

"Ond mae pawb yn falch iawn. Pleidleisiodd y cyngor yn unfrydol yn erbyn y cynllun ac mae'r Cynulliad wedi cytuno hefo ni.

"Byddai cael rhywbeth fel hyn mor agos at ysgol wedi bod yn hurt."