Ymosodiad: Dyn ar fechnïaeth yn dilyn arestio

Bangor, Peep CCTV Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Rhyddhawyd llun CCTV yma gan Heddlu Gogledd Cymru yr wythnos diwethaf.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dyn 27 oed mewn cysylltiad ac ymosodiad ar filwr ym Mangor ym mis Hydref yn dilyn apêl am dystion.

Rhyddhawyd y dyn a'r fechnïaeth ac mi fydd yn dychwelyd i'r Orsaf Heddlu yn y dyfodol i alluogi'r ymchwiliad dod i ben.,

Yr wythnos diwethaf rhyddhawyd lluniau CCTV o ddyn yn cerdded allan o glwb nos Peep yn y ddinas wrth i'r heddlu ehangu e'u hymchwiliad.

Ymosodwyd ar y Gwarchodfilwr Cymreig 19 oed yn oriau man bore Iau, Hydref 19.

Meddai llefarydd ar ran yr heddlu: "Ar (dydd llun) Tachwedd 25, arestiwyd dyn 27 oed mewn cysylltiad â'r ymosodiad yma."

"Wedi iddo gael ei gwestiynu rhyddhawyd ef a'r fechnïaeth.

"Mi fydd y gŵr yn dychwelyd i orsaf heddlu yn y dyfodol i alluogi'r heddlu i gwblhau ein hymchwiliad.

"Erbyn hyn nid ydym yn chwilio am yr unigolyn yn y lluniau CCTV."

Anafiadau

Am 3yb ar Hydref 19, roedd y milwr yn cerdded allan o'r clwb pan ymosodwyd arno wrth ddrws yr adeilad.

Dyrnwyd ef yn ei wyneb gan achosi nifer o anafiadau yn cynnwys torri asgwrn ei ên.

Roedd rhaid iddo fynd i'r ysbyty am driniaeth.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.