Abertawe 0 - 3 Manchester City

Manchester City
Image caption Cafodd Samir Nasri chwip o gêm

Mae Abertawe wedi cael crasfa yn erbyn Manchester City yn Stadiwm y Liberty.

Er iddyn nhw chwarae'n dda ar adegau roedd yr ymwelwyr yn llawer rhy gryf iddyn nhw yn y diwedd.

Roedd absenoldeb Michu, Bony a Vorm yn rhy amlwg a'r gôl-geidwad oedd ar fai am y gôl gyntaf.

Tarodd Alvaro Negredo ergyd galed heibio'r wal o gic rydd - wnaeth Gerhard Tremmel ddim symud a bydd cefnogwyr Abetawe'n teimlo y dylai rhywun a'i brofiad o wneud yn well.

Yn ystod gweddill yr hanner fe fethodd Jonathan de Guzman gyfle hawdd a gallai Pablo Hernandez fod wedi ennill cic o'r smotyn ar ddiwrnod arall.

Ond doedd lwc ddim ar ochr yr Elyrch ac fe wnaeth Samir Nasri'n siŵr na fyddai nhw'n cael pwynt o'r gêm.

Sgoriodd gôl grefftus ar yr awr wedi iddo ddawnsio o gwmpas amddiffyn y tîm cartref ac o fewn chwarter awr roedd y Ffrancwr wedi cael ei ail.

Ergyd isel glyfar y tro hwn yn dilyn gwaith da gan Pablo Zabaleta.

Mae'r canlyniad yn gweld Abertawe yn syrthio o'r 11fed safle i'r 13eg oherwydd bod eu gwahaniaeth goliau bellach yn waeth na Aston Villa a West Brom.