Stormydd yn effeithio ar ogledd Cymru

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Fideo o'r Rhyl gan ohebydd BBC Cymru, Dafydd Evans, drwy ddyfais ei ffôn symudol

Mae 90 o bobl yn parhau mewn canolfan hamdden wedi i lanw effeithio ar hyd at 400 o dai yn Y Rhyl. Ar un adeg roedd 400 yno.

Mae rhybuddion am lifogydd a'r manylion i gyd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru

Am 2pm dywedodd y gohebydd Sion Tecwyn: "Yn sicr, mae'r llifogydd wedi effeithio ar nifer fawr o dai yn Y Rhyl.

"Mae'r gwynt wedi bod yn weddol gryf ond y broblem sylfaenol yw'r llanw anarferol o uchel."

Awr yn ddiweddarach dywedodd y gohebydd Dafydd Evans: "Mae'r gwasanaeth tân yn amau bod y llifogydd yn effeithio ar tua 220 o dai.

"Ar hyn o bryd mae chwe injan dân yma, 30 o blismyn, a chychod yr RNLI a'r gwasanaeth tân yn cludo pobl o'u tai.

"Mae 'na deimlad bod y gwaetha' drosodd ond dyw hi ddim yn glir faint o waith cludo pobl i ddiogelwch sy' 'na."

400

Am 4pm dywedodd yr heddlu fod y risgiau'n gysylltiedig â gwynt cryf a llanw cryf wedi lleihau ond bod 400 wedi eu symud i Ganolfan Hamdden Y Rhyl.

Dywedodd y gwasanaeth tân fod 34 o alwadau wedi eu derbyn 10am a 2.30pm.

"Roedd y rhan fwya' yn Garford Road, Ridgeway Avenue a Coast Road," meddai llefarydd.

Hefyd roedd galwadau oherwydd llifogydd ym Mae Cinmel, Deganwy, Llandudno a Thalacre.

Ynghynt roedd risg uchel o lifogydd mewn dwy ardal yn Sir y Fflint, rhwng Caeglas a Bagillt ac yn Y Parlwr Du.

Oherwydd y risg cafodd trigolion y ddwy ardal eu hannog i adael eu cartrefi.

Ond erbyn y prynhawn nid oedd adroddiadau am lifogydd difrifol a chafodd y ganolfan orffwys yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon ei chau.

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Jeremy Vaughan, sy'n rheoli ymateb yr asiantaethau ar draws y gogledd: "Er bod y perygl wedi mynd heibio rydym yn asesu'r sefyllfa ac yn cynnig help lle bo angen.

"Dylai pobl gadw golwg ar negeseuon y gwasanaethau brys ar-lein ar newyddion ar y radio a theledu."

Os yw rhywun, meddai, yn poeni am ei deulu neu ffrindiau yn ardal Y Rhyl dylai ffonio 01492 518383.

Ynghynt roedd risg uchel o lifogydd mewn dwy ardal yn Sir y Fflint, rhwng Caeglas a Bagillt ac yn Y Parlwr Du.

Pump ysgol

Image caption Daeth y tonnau dros yr amddiffynfeydd ym Mae Cinmel
Image copyright Gerallttv
Image caption Mae rhai ffyrdd wedi eu cau ar hyd arfordir y gogledd
Image copyright Peter McMillen
Image caption Gorlifodd y môr yng Nghonwy
Image copyright RNLI Llandudno
Image caption Dyma oedd yr olygfa y tu allan i safle'r RNLI yn Llandudno
Image caption Mae nifer o dai yn ardal Bae Cinmel wedi eu heffeithio

Cafodd pump ysgol eu cau oherwydd y risg o lifogydd, Ysgol Gynradd Sealand, Ysgol Gynradd Sant Anthony yn Saltney (yn rhannol), Uned Bryn Tirion, Ysgol Gynradd y Fferi Isaf (yn rhannol), Ysgol Gynradd Saltney Ferry (yn rhannol), Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood (yn rhannol).

Yn y canolbarth am 12:50pm cwympodd coeden oedd yn pwyso 50 o dunelli metrig ar gar ar yr A40 ger Crughywel.

Aed â'r rhai yn y car i Ysbyty Neville Hall yn Y Fenni a'r gred yw nad yw'r anafiadau'n ddifrifol.

Mae'n debyg y bydd y ffordd ar gau am o leia' weddill y dydd.

Yn Yr Alban mae miloedd o bobl heb drydan a gwyntoedd mor gryf â 160 o filltiroedd yr awr.

Bu farw gyrrwr lori fawr wedi i'w gerbyd gael ei chwythu ar ben dau gar yng Ngorllewin Lothian, ac mae nifer o ddamweiniau wedi digwydd dros y DU.

Cafodd lori ei chwythu drosodd yn Newcastle, ac mae trenau wedi eu canslo yn Yr Alban.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Prydain wedi galw cyfarfod brys o bwyllgor Cobra i drafod y tywydd garw.

Mae sawl ffordd wedi eu cau ac ar un adeg roedd amodau gyrru yn anodd ar hyd yr A55 o Gaergybi ar Ynys Môn i Frychdyn yn Sir y Fflint oherwydd y gwyntoedd cryfion. Gellir gweld mwy o fanylion am broblemau traffig ar wefan Traffig Cymru.

Cafodd trenau rhwng Caer a Chaergybi eu canslo ac roedd y lein rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog ar gau oherwydd llifogydd yn Llanrwst.

Cadw golwg

Roedd gweithwyr y corff amgylcheddol yn cadw golwg ar y sefyllfa, gan wirio bod amddiffynfeydd yn gweithio yn iawn a bod unrhyw gridiau draenio yn glir.

Maen nhw'n dweud na ddylai pobl ymweld â glan y môr rhag ofn iddyn nhw gael eu llusgo i'r môr o achos y gwynt cryf.

Dywedodd y corff na ddylai pobl chwaith yrru na cherdded trwy ddŵr llifogydd oni bai eu bod wedi cael gorchymyn i wneud hynny gan y gwasanaethau brys.

Mae modd ffonio llinell llifogydd ar y rhif 0845 988 11 88.

Mae heddlu'r gogledd hefyd wedi dweud y bydd yna fwy o swyddogion o gwmpas yn ardal Rhyl a Bae Cinmel heno er mwyn cadw golwg ar eiddo sydd bellach yn wag am fod pobl wedi gorfod gadael eu tai.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.