Gyrrwr beic modur wedi marw ym Mhontardawe

Mae Heddlu De Cymru yn apêlio am dystion wedi gwrthdrawiad pan laddwyd gyrrwr beic modur ym Mhontardawe, ger Castell-nedd, ddydd Sul.

Fe ddigwyddodd am 4:50yh yn agos at Ffordd Parc Ynysderw, ger Canolfan Hamdden Pontardawe.

Roedd beic modur 125cc wedi taro yn erbyn clwyd fetel a bu farw dyn 40 oed o'i anafiadau yn y fan a'r lle.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu a welodd y beic modur yn cael ei yrru yn ardal Pontardawe ar y prynhawn Sul, i gysylltu gyda nhw.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.