Abertawe 1 - 1 Hull

Abertawe Hull
Image caption Bydd Abertawe'n siomedig i wastraffu'r cyfle i ennill ddwywaith yn olynol am y tro cyntaf y tymor hwn

Cyn chwaraewr yr Elyrch Danny Graham wnaeth sgorio yn erbyn Abertawe wrth i Hull eu dal i gêm gyfartal yn y Liberty.

Fe sgoriodd Graham - oedd heb wneud hynny mewn 30 gem cyn y gêm hon - ar ôl naw munud yn erbyn y clwb y gadawodd ym mis Ionawr diwethaf.

Camgymeriad Ashley Williams roddodd y cyfle iddo, wrth i gapten y tîm cartref basio i Ahmed Elmohamady mewn camgymeriad.

Fe lwyddodd yr asgellwr, sydd ar fenthyg o Sunderland, ddarganfod Graham gyda chroesiad taclus gafodd ei gorffen yn gelfydd gan y gŵr o Loegr.

Gwellodd Abertawe wedyn gan gael y gorau o'r meddiant drwy gydol yr hanner cyntaf ond roedd amddiffyn Hull yn gryf.

Bu Ben Davies yn wastraffus wrth iddo daro ergyd llawer rhy uchel ychydig cyn chwiban hanner amser.

Ar ôl yr egwyl fe wnaeth dyfalbarhad Abertawe dalu wrth i'r bêl fynd i fewn wedi iddi daro Chico Flores o groesiad Jonjo Shelvey.

Bydd yr ymwelwyr yn teimlo y dylen nhw fod wedi cael cic o'r smotyn wedi i Dwight Tiendalli edrych fel iddo lawio ac fe gafodd gôl gan Meyler ei chanslo oherwydd camsefyll.

Daeth Michu - oedd yn dychwelyd wedi pum wythnos allan - yn agos tua'r diwedd ond Hull oedd y tîm gorau am lawer o'r gêm a bydd Abertawe'n hapus gyda'r pwynt.