Gofyn am ymchwiliad pam digwyddodd llifogydd Rhyl
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Dinbych yn ystyried cynnal ymchwiliad er mwyn deall sut ddigwyddodd llifogydd yr wythnos diwethaf, a sut y gall amddiffynfeydd gael eu gwella.
Parhau mae'r gwaith clirio a glanhau yn Rhyl wedi'r llifogydd yn y dref.
Cafodd 130 o dai eu heffeithio wrth i wyntoedd cryf a llanw uchel godi lefel y môr ar arfordir gogledd Cymru ac mae'r Cyngor yn dweud eu bod wedi dod o hyd i lety i dros 50 o bobl wedi'r llifogydd.
Ddydd Mawrth, Rhagfyr 10, mae gwasanaethau trên wedi ail-ddechrau rhwng Caer a'r Rhyl, ond mae lein Blaenau Ffestiniog yn dal i fod ar gau.
Ymchwiliad
Mae Cyngor Sir Dinbych yn ystyried cynnal ymchwiliad er mwyn deall sut ddigwyddodd llifogydd yr wythnos diwethaf, a sut y gall amddiffynfeydd gael eu gwella.
Yn ol yr aelod cabinet am yr amgylchedd, y Cynghorydd David Smith, mae angen ateb cwestiynau pwysig am yr hyn ddigwyddodd yr wythnos diwethaf.
"Gyda'r trefniadau mewn grym i roi cymorth i bobl sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd, rydym yn canolbwyntio nawr ar ddeall pam ei fod wedi digwydd," meddai.
"Rydym yn trafod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru am gynnal ymchwiliad fydd yn ein galluogi ni i ddeall pam fod hyn wedi digwydd, pa mor debygol yw o ddigwydd eto a beth allwn wneud i wella amddiffynfeydd llifogydd yn y dyfodol."
Dywedodd y cyngor y byddai cymorth ar gael i bobl dros gyfnod y Nadolig.
Gwyntoedd cryf
Cafodd cannoedd o'r Rhyl eu symud o'u cartrefi ddydd Iau, Rhagfyr 5ed wrth i lanw uchel a gwyntoedd cryfion daro'r ardal.
Bu raid cau ysgolion ac fe gafodd nifer o drenau eu canslo.
Roedd dau rybudd difrifol - hynny yw perygl i fywyd - mewn grym brynhawn Iau a nifer o rybuddion am lifogydd dros y gogledd.
Yn Sir Ddinbych bu'r RNLI a'r gwasanaethau brys yn helpu 25 o bobl a chwech o gŵn o'u tai gyda rhai yn gorfod teithio mewn cychod.
Pan oedd y storm ar ei hanterth ymatebodd y gwasanaeth tân i 34 o alwadau mewn cyfnod o bedair awr.
Dywedodd y cyngor bod y clirio wedi parhau dros y penwythnos, gyda gweithwyr yn glanhau palmentydd a ffyrdd yn y Rhyl.
Bob dydd yr wythnos hon bydd lori wastraff yn casglu nwyddau sydd wedi eu difetha, a bydd tîm arbennig ar gael i helpu pobl i glirio eu cartrefi rhwng 8yb a 4yh.
Dros y dyddiau nesaf, bydd draeniau a ffosydd yn cael eu clirio.
Straeon perthnasol
- 8 Rhagfyr 2013
- 5 Rhagfyr 2013
- 5 Rhagfyr 2013