Yr eira yn gostus i gynghorau

Wyddgrug dan eira
Image caption Fe gafwyd trwch o eira mewn rhannau yng Nghymru gan gynnwys Y Wyddgrug yn Sir y Fflint

Fe wnaeth 10 cyngor gafodd eu heffeithio gan y stormydd eira ym mis Mawrth wario £3.7m rhyngddynt er mwyn delio gyda'r sefyllfa.

Roedd yn rhaid i rai ddefnyddio arian wrth gefn i dalu'r costau ac mi wrthododd Llywodraeth Cymru geisiadau i roi pres ychwanegol i'r cynghorau.

Yn ôl swyddogion cyfrifoldeb y cynghorau ydy delio gydag argyfwng a chynllunio ymlaen llaw.

Mi achosodd yr eira yn y gwanwyn broblemau mawr gyda lluchfeydd eira cymaint a chwe throedfedd mewn rhai ardaloedd.

Roedd hynny yn golygu bod staff yn gorfod gweithio oriau hir mewn cynghorau fel Conwy gyda loriau yn graenu'r ffyrdd 24 awr y dydd.

Cyngor Swm a wariwyd Mawrth 2013 Ariannu
Ceredigion £265,000 Y gyllideb ac arian wrth gefn
Conwy £500,000 Arian wrth gefn
Dinbych £389,000 Ddim wedi datgelu
Gwynedd £660,000 Arian wrth gefn
Sir Fynwy £147,000 Arbedion mewn llefydd eraill
Castell Nedd Port Talbot £221,309 Arian wrth gefn
Rhondda Cynon Taf £50,000 "Buddsoddiad gan y cyngor"
Bro Morgannwg £23,000 Y gyllideb
Wrecsam £291,000 Arian wrth gefn
Fflint £1.15m Arian wrth gefn

Conwy

Yng Nghonwy bu'n rhaid i'r cyngor ddefnyddio arian o'i chronfeydd wrth gefn er mwyn delio gyda phroblemau gafodd eu hachosi gan yr eira, wnaeth gostio £500,000.

Mae'r cynghorydd Mike Priestley - sydd yn gyfrifol am y ffyrdd - yn cyfaddef fod y tywydd wedi rhoi pwysau ychwanegol arnyn nhw. Mae'n cyfaddef y gallai'r gost ychwanegol ym mis Mawrth effeithio ar brosiectau ffyrdd yn y dyfodol.

"Bydd yn rhaid i ni edrych ar y gyllideb ac efallai edrych i weld os allwn ni roi wyneb newydd i rhai ffyrdd mewn blwyddyn neu fwy."

Ei obaith ydy y bydd y tywydd yn fwy ffafriol am y misoedd nesaf: "Dw i yn gobeithio am flwyddyn fwyn eleni fel bod modd i fi arbed ychydig o'r hanner miliwn sydd wedi ei glustnodi ar gyfer y gaeaf."

Blaenoriaethu

£660,000 oedd y bil yng Ngwynedd. Yn ôl y cyngor roedd ganddyn nhw bres wedi ei gynilo mewn pot ar gyfer tywydd gwael. Mae'r pot hwnnw rwan yn wag.

"Pan mae gyda ni aeaf mwyn a dim trychineb mawr rydyn ni yn rhoi arian i un ochr ar gyfer tywydd gwael, " meddai'r cynghorydd Gareth Roberts.

"Ond mi oedd gaeaf llynedd yn drychinebus. Mae hynny yn golygu bod gyda ni ddim ar ôl ar gyfer y gaeaf yma a jest ein cyllideb arferol sydd gyda ni. "

Mae Mr Roberts, sy'n berchen ar y portffolio priffyrdd, yn dweud mai dim ond gwaith anghenrheidiol fydd yn digwydd ar y ffyrdd.

Er i sawl cyngor ofyn am gymorth gan Lywodraeth Cymru wnaethon nhw ddim cael pres ychwanegol.

Yn ôl y llywodraeth maen nhw'n edrych ar bob cais yn unigol ac mi ddylai bob cyngor fod wedi cynllunio ar gyfer argyfwng:

"Mae'n rhaid i unrhyw gymorth fod ar gyfer digwyddiad eithriadol ac mi ddylai'r dinistr i seilwaith y cyngor lleol neu'r gymuned fod yn eithriadol."

Straeon perthnasol