Plas Madoc gam yn nes at y diwedd

Plas Madoc
Image caption Mae'r cyngor yn ceisio darganfod ffyrdd i arbed £14m

Gallai dwy ganolfan hamdden yn Wrecsam gau gyda chanolfan newydd gwerth £12 miliwn yn cael ei agor yn eu lle.

Mae pwyllgor craffu Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi argymell cau pwll nofio Waterworld a Chanolfan Hamdden Plas Madoc, yn ogystal â rhai campfeydd sy'n cael eu rhedeg gan y cyngor.

Fe ddywedodd y pwyllgor fod ymgynghorwyr yn credu gallai'r cyngor arbed £2 miliwn mewn costau cynnal a chadw dros y pum mlynedd nesaf drwy weithredu'r newidiadau.

Mae'r adroddiad mae'r pwyllgor wedi ei ysgrifennu'n argymell adeiladu canolfan fawr newydd ar safle'r Waterworld presennol.

Ond mae nifer o bobl yr ardal yn anhapus gyda'r cynlluniau i gau Plas Madoc.

Mae'r pwyllgor yn credu y gallai sefydlu canolfan arall er mwyn gwasanaethu ardal ehangach tu allan i'r dref yn ateb eu pryderon.

Y cam nesaf fydd i fwrdd gweithredol y cyngor bleidleisio ar y cynlluniau yn y flwyddyn newydd.

Mae'r cyngor am dorri £400,000 o wasanaethau hamdden dros y flwyddyn ariannol nesaf, gyda chynlluniau i dorri £311,000 pellach y flwyddyn ganlynol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.