Lladrata: Rhybudd am oleuadau Nadolig tu allan

Goleuadau Nadolig Image copyright PA
Image caption Yn aml mae ceblau trydan sy'n cysylltu'r goleadau Nadolig yn cael eu bwydo trwy ffenestri agored

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio pobl i fod yn ofalus wrth osod goleuadau Nadolig y tu allan i'w tai wrth ladron geisio manteisio.

Yn ôl yr heddlu, mae yna achosion yng Ngwynedd o ladron yn targedu ffenestri sydd wedi'u gadael yn lled agored er mwyn cysylltu ceblau trydan i'r goleuadau.

Dywedodd Emma Williams, o Heddlu Gogledd Cymru: "Rwy'n siŵr fod pawb yn hoffi edrych ar oleuadau Nadolig, ac yn aml mai rhain hefyd yn codi arian tuag at achosion da.

"Mae'r goleuadau hefyd yn caniatáu i ni fwynhau ysbryd yr ŵyl ond mae'n rhaid cofio bod yn wyliadwrus.

""Yn aml mae goleuadau o'r fath yn cael cu cyflenwi gan geblau sy'n cael eu bwydo drwy ffenestri.

"Weithiau mae'r ffenestri yn cael eu gadael yn agored drwy'r nos ac yn gwneud gwaith lladron yn haws.

"Yn ogystal â defnyddio ceblau sy'n gallu gwrthsefyll dŵr, fe ddylai pobl sicrhau bod eu ffenestri wedi'u cau."

Mae safle we Heddlu'r Gogledd yn cynnig cyngor ynglŷn â sut i fynd ati i ddiogelu eich cartref.