Dwyn ceblau: Saith wedi eu carcharu

pylon Image copyright PA
Image caption Roedd y ceblau werth £150,000

Mae saith o ddynion o dde Cymru, wnaeth beryglu eu bywydau i ddwyn ceblau trydan, wedi cael eu carcharu.

Cafodd y ceblau eu cymryd o beilon trydan 33,000 folt mewn cae yn Swydd Gaerloyw.

Roedden nhw werth £150,000.

Cafodd dau o'r dynion eu canfod yn euog o gynllwynio i ddwyn y ceblau mewn achos yn Llys y Goron Caerloyw fis diwetha'.

Roedd pump o ddynion eraill wedi pledio'n euog i'r un cyhuddiad mewn achos cynharach.

Mae bob un o'r dynion heblaw am un yn dod o Gaerdydd.

Mae Liam Murphy yn dod Landochau, ym Mro Morgannwg.

Cafodd Martin Richards, 27, a Stephen Phillips, 52, eu dedfrydu i 30 mis yr un dan glo.

21 mis oedd dedfryd Paul Condick, 30, Nathan James , 35, a Liam Murphy, 24. Cafodd Murphy dri mis ychwanegol am fod gyda thaser yn ei feddiant.

Penderfynodd y barnwr hefyd anfon Vijay Chohan, 24, a Umar Chohan, 26, i'r carchar am 24 mis yr un.

Dywedodd y barnwr Wiliam Hart: "Roedd hwn yn syniad oedd wedi ei gynllwynio'n ofalus ac roedd angen tipyn o hyfdra, os nad ffolineb.

"Wnaeth y weithred ddim effeithio ar y cyflenwad trydan lleol ond mater o lwc oedd hynny."