Dedfryd gweddill oes am lofruddio Georgia Williams
- Published
Bydd rhaid i ddyn a lofruddiodd ferch 17 oed drwy ei chrogi wario gweddill ei fywyd yn y carchar.
Roedd gan Jamie Reynolds ddiddordeb mewn gweld delweddau o drais eithafol yn erbyn merched, yn ôl yr erlynydd, David Crigman QC.
Plediodd Jamie Reynolds yn euog yn gynharach yn y mis i lofruddio Georgia Williams, 17 o Sir Amwythig.
Clywodd y gwrandawiad y gallai Reynolds wedi llofruddio llawer mwy.
Delweddau pornograffig
Roedd asesiad seiciatryddol wedi dangos bod gan Reynolds y potensial i lofruddio mwy o bobl, a daeth i'r canlyniad ei fod yn berygl i'r cyhoedd.
Pan gafodd ei arestio, cafodd 16,800 o ddelweddau a 72 fideo pornograffig eu darganfod ar ei gyfrifiadur.
Roedd y rhain yn cynnwys delweddau o ferched roedd o yn eu hadnabod gyda rhaffau wedi ychwanegu yn ddigidol o gwmpas eu gyddfau.
Roedd o hefyd wedi ysgrifennu straeon byrion graffig.
Disgrifiodd Mr Crigman y llofruddiaeth fel un wedi "ei sgriptio, sadistig ac wedi ei gymell gan weithredau rhywiol."
Dywedodd fod Reynolds wedyn wedi cymryd lluniau o gorff y ferch 17 oed mewn llefydd gwahanol yn y tŷ.
Gadael y llys
Er bod Georgia Williams yn adnabod y dyn 23 oed roedd hi wedi dangos yn glir nad oedd ganddi ddiddordeb rhamantus ynddo.
Roedd hi ond wedi cytuno i fynd i'w dy i fod yn fodel iddo dywedodd yr erlynydd.
Yn ystod y diwrnod mi adawodd rhieni Georgia Williams y llys er mwyn osgoi disgrifiadau graffig o'r drosedd.
Mai 26 oedd y tro olaf iddyn nhw weld eu merch, ac mi gysyllton nhw hefo'r heddlu ar ôl darganfod nad oedd hi yn aros hefo ffrindiau fel yr oedden nhw wedi credu.
Yn y llys mi glywon nhw fod Reynolds wedi anfon negeseuon testun atyn nhw fel nad oedden nhw yn gofidio.
Cafodd delweddau CCTV eu dangos o Jamie Reynolds yn mynd i'r sinema yn Wrecsam pan oedd o ar y ffordd i gael gwared a chorff Georgia Williams.
Doedd o ddim yn dangos unrhyw arwydd ei fod wedi ei ypsetio meddai'r erlyniad.
Cafodd Jamie Reynolds ei arestio yng Nglasgow, y diwrnod ar ôl i Georgia ddiflannu.
Cafodd ei arestio i ddechrau ar amheuaeth o herwgipio ond wedyn gyda'r cyhuddiad o lofruddio pan ddaeth yr heddlu o hyd i'w chorff.
Straeon perthnasol
- Published
- 4 Mehefin 2013