Adroddiad Iwan Griffiths
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ffrae rygbi yn 'ryfel cartref'

19 Rhagfyr 2013 Diweddarwyd 21:45 GMT

Mae un Aelod Seneddol wedi disgrifio'r ffrae sy'n rhygnu ymlaen ym myd rygbi Cymru fel rhyfel cartre' sy'n dinistrio'r gêm.

Mae'r Dreigiau, y Gweilch, y Gleision a'r Scarlets yn gwrthod arwyddo cytundeb newydd gan eu bod yn dweud bod y telerau yn anffafriol.

Maen nhw felly wedi gofyn am gefnogaeth y gwleidyddion gan honni bod y rhanbarthau yn cyfannu £30 miliwn o bunnau i economi Cymru ac yn cyflogi dros 1,000 o bobl.

Adroddiad Iwan Griffiths.