Gobaith am waith mewn dau bwll glo?
- Cyhoeddwyd

Mi gollodd cannoedd o bobl eu swyddi pan y daeth y ddau bwll glo i ben yng Nghwm Nedd
Mae rhywfaint o waith wedi ail gychwyn ym mwll glo yng Nghwm Nedd. Mi ddaeth gwaith yn y safle yn Aberpergwm ger Glyn Nedd i ben ychydig ddiwrnodau cyn y Nadolig y llynedd gan olygu bod 300 o bobl wedi colli eu swyddi.
Ond mae'r cwmni nawr yn cyflogi 64 o bobl ar y safle.
Mae'r gweinyddwyr ym Mwll Glo Cwmgwrach sydd gerllaw hefyd yn dweud eu bod nhw yn gwneud cynnydd da yn ei hymgais i gael rhywun i brynu'r pwll.
180 o swyddi gafodd eu colli yn y pwll hwnnw ddiwedd Hydref.
Maent yn dweud ei bod yn edrych ar sawl cynnig ac yn gobeithio gwneud cyhoeddiad mwy pendant yn y flwyddyn newydd.
Mae buddsoddiad pellach yn y ddau safle yn ddibynol ar gynnydd ym mris glo.
Straeon perthnasol
- 31 Hydref 2013