Gleision 19 - 22 Gweilch

Dan Biggar
Image caption Dan Biggar a giciodd y Gweilch i fuddugoliaeth dros Y Gleision

Mewn gêm agos o ran meddiant, cicio Dan Biggar oedd y gwahaniaeth wrth i'r Gweilch ennill yng Nghaerdydd.

Hwn yw'r chweched tro yn olynol mae'r Gweilch wedi ennill yn erbyn y Gleision.

Rhoddodd cais Justin Tipuric ar ddechrau'r ail hanner reolaeth o'r gêm i'r Gweilch wrth iddynt ymestyn eu mantais i 13 - 22 wedi i Dan Biggar ychwanegu'r ddau bwynt.

Ond er mynd naw pwynt y tu ôl i'r Gweilch, daeth Y Gleision yn ôl yn gryf gyda dwy gic gosb gan Leigh Halfpenny yn torri'r bwlch i lawr i dri phwynt gyda ugain munud yn weddill.

Er pwyso am gais i selio buddugoliaeth, ofer fu ymdrechion y Gleision wrth i'r Gweilch daclo'n gryf a rhwystro unrhyw ymosodiad addawol.

Mewn hanner cyntaf tynn sgoriodd Kristian Dacey, bachwr y Gleision unig gais yr hanner.

Cosbodd Dan Bigger annisgyblaeth y Gleision gyda chiciau cosb wrth i'r ymwelwyr arwain ar yr hanner 10 - 15.

Gleision: Leigh Halfpenny; Alex Cuthbert, Richard Smith, Dafydd Hewitt, Harry Robinson; Gareth Davies, Lloyd Williams; Sam Hobbs (capt), Kristian Dacey, Benoit Bourrust, Macauley Cook, Filo Paulo, Andries Pretorius, Robin Copeland, Rory Watts-Jones,.

Eilyddion: Rhys Williams, Thomas Davies, Scott Andrews, James Down, Josh Navidi, Lewis Jones, Gavin Evans, Chris Czekaj.

Gweilch: Sam Davies; Hanno Dirksen, Tom Isaacs, Ben John, Aisea Natoga; Dan Biggar, Tom Habberfield; Ryan Bevington, Scott Baldwin, Adam Jones, Alun Wyn Jones (capt), James King, Sam Lewis, Joe Bearman, Justin Tipuric.

Eilyddion: Matthew Dwyer, Marc Thomas, Dan Suter, Morgan Allen, Tyler Ardron, Tito Tebaldi, Ashley Beck, Jeff Hassler.

Dyfarnwr: Jerome Garces (France)

GLEISION 19

Gleision: Cais Kristian Dacey. Trosiad Halfpenny. Ciciau Cosb Halfpenny 4

GWEILCH 22

Cais: Tipuric. Trosiad Biggar. Ciciau Cosb Biggar 4. Cic-adlam Biggar