Talu teyrnged i ddynes ifanc fu farw
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai Danielle Wrighton, 22, fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar y ffordd yn Llandegla ddydd Sul.
Cafodd Ms Wrighton o Ddyffryn Ardudwy ei chanfod yn farw yn dilyn y digwyddiad ar y gylchfan ar y gyffordd rhwng yr A5104 a'r A542.
Mae ffrind i Danielle oedd hefyd yn teithio yn y Ford Focus yn derbyn triniaeth mewn ysbyty yn Stoke am anafiadau difrifol er nad yw bywyd y person yma, sydd yn 22, yn cael ei ystyried i fod mewn perygl.
Fan wen Mercedes oedd y cerbyd arall oedd yn ymwneud â'r digwyddiad - fe dderbyniodd y gyrrwr anafiadau mân a chafodd driniaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Dywedodd y cynghorydd Eryl Jones-Williams sy'n cynrychioli Dyffryn Ardudwy fod "cwmwl tywyll" dros y pentref yn dilyn y newyddion.
"Roedd Danielle yn gweithio fel gofalwr er mwyn sicrhau bod pobl hen ac anabl yn derbyn cymorth ac mae hynny'n dangos y math o ddynes ifanc oedd hi," ychwanegodd.
Mae'r heddlu'n awyddus i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â PC Gary Threlfall o'r Uned Rheoli Ffyrdd ar 101, gyn ddyfynu'r rhif achos RC13211556.
Straeon perthnasol
- 29 Rhagfyr 2013