Gwrthblaid yn beirniadu cynllun £14.5m Cyngor Caerffili

  • Cyhoeddwyd
Swyddfeydd y cyngor
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r cyngor yn anelu at arbed £28.13m yn ystod tair blynedd

Mae'r gwrthbleidiau o fewn Cyngor Caerffili wedi beirniadu cynlluniau Llafur i arbed £14.5 miliwn y flwyddyn nesaf.

Dyw cynghorwyr Plaid Cymru ddim yn hapus gyda'r ffaith bod arweinwyr y cyngor yn bwriadu codi tâl am ddelio gyda llygod mawr, casglu gwastraff o'r ardd a llogi caeau chwaraeon.

Mae angen i'r cyngor arbed dros £28 miliwn erbyn Ebrill 2017 ond dyw cynghorwyr ddim yn cytuno ynglŷn â sut dylid cyflawni hyn.

Er mwyn dangos bod ffordd arall i wneud yr arbedion mae aelod o grŵp Plaid Cymru wedi cyflwyno cynllun gwahanol.

Blaenoriaethau cywir?

Rob Gough yw'r dyn hwnnw, a dywedodd: "Yw cynnig fod pobl yn talu ffi o £20 am alw'r cyngor pan mae gennych lygod mawr yn eich tŷ neu am gasglu gwastraff o'r ardd yn ogystal â £25 am finiau gwastraff newydd, hyd yn oed os yw'ch un chi'n cael ei ddwyn, yn enghraifft o flaenoriaethau cywir?

"Cynnig arall yw rhoi'r gorau i lanhau parciau ar benwythnosau - gallai hyn arwain at ganiau a photeli gwag a gwydr wedi torri'n cael eu gadael ar y llawr ar y diwrnodau prysuraf i deuluoedd a phlant."

Dyw dirprwy arweinydd y cyngor ddim yn fodlon derbyn y feirniadaeth honno.

Dywedodd Keith Reynolds: "Mae'n ddoniol clywed Rob Gough yn siarad am ffioedd am gyfnewid biniau gwastraff pan mae gweinyddiaeth flaenorol Plaid Cymru wnaeth eu cyflwyno yn y lle cyntaf.

"Mi hoffwn i weld Colin Mann yn esbonio sut y byddai ef yn gwneud arbedion o £14.3 miliwn y flwyddyn nesaf."

Colin Mann yw arweinydd grŵp Plaid Cymru o fewn y sir ac mae ef hefyd wedi beirniadu'r cyngor am "doriadau hallt fydd yn taro pobl yn galed".

Yn ôl Mr Reynolds bydd holl gynlluniau'r cyngor yn cael eu hystyried gan bwyllgorau craffu.

Ychwanegodd: "Mae'n bosib y bydd y pwyllgorau hyn yn edrych ar gynlluniau cyllid y cyngor eto cyn iddyn nhw gael eu hystyried gan y cabinet.

"Beth bynnag sy'n digwydd, rydym wedi rhoi sicrwydd i staff mai dewis olaf fydd diswyddiadau."

Mae disgwyl i'r gyllideb gael ei chytuno erbyn diwedd mis Chwefror.