Gyrrwr yn colli trwydded ar ôl anafu cwpwl yn Llandudno
- Published
Cafodd cwpwl a oedd ar eu gwyliau yn Llandudno ym mis Awst 2013 eu hanafu'n ddifrifol gan gar a oedd yn mynd yn ei ol.
Honnodd y gyrrwr 85 oed fod y sbardun wedi mynd yn sownd.
Plediodd Cecil Lyne o Brestatyn yn euog i yrru'n ddiofal, ac roedd e'n rhy sâl i fod yn bresennol yn y llys pan gafodd ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd. Bydd yn rhaid iddo basio'i brawf cyn y gall yrru eto.
Cafodd ddirwy o £220 a bydd yn rhaid iddo dalu costau o £62.
Anafiadau difrifol
Dywedodd Rhian Jackson ar ran yr erlyniad fod David Jones, 42, a'i wraig Sharon, 47, o Stoke-on-Trent wedi bod yn cerdded ar hyd y pafin gyda'u cŵn pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Torrodd Mrs Jones ei garddwrn a'i phigwrn a threuliodd wythnos yn yr ysbyty.
Yn ôl Mrs Jones roeddynt wedi bod yn cael gwyliau "ardderchog" ac roedd diwrnod braf wedi troi yn hunllef oherwydd y bu bron iddi hi a'i gŵr golli eu bywydau yn y digwyddiad.
Torrodd Mr Jones ei bigyrnau, bu'n rhaid tynnu gwythïen o'i goes dde a doedd e ddim yn gwybod a fyddai'n gallu dychwelyd i'w waith gyda Bentley Motors yn Crewe.
Edifarhau
Dywedodd Angharad Mullarkey, a oedd yn amddiffyn Lyne, ei fod wedi meddu ar drwydded yrru ers 60 mlynedd heb unrhyw broblemau.
Roedd yn edifarhau ac ymddiheuro am yr hyn a ddigwyddodd i'r cwpwl. Roedd yr heddlu wedi meddiannu ei gar a doedd e ddim wedi gyrru ers y gwrthdrawiad.