Lee Byrne ac Aled Brew yn dychwelyd i chwarae yng Nghymru
- Published
Mae'r chwaraewr rygbi Lee Byrne yn dychwelyd i Gymru ar ôl iddo arwyddo cytundeb gyda Dreigiau Casnewydd Gwent.
Bydd cytundeb dwy flynedd y cefnwr yn dechrau yn yr haf. Mae'r asgellwr Aled Brew hefyd wedi arwyddo gyda'r clwb.
Gyda chlwb Clermont Auvergne y mae Lee Byrne wedi bod yn chwarae yn ddiweddar ac mae'n cael ei gydnabod fel un o gefnwyr gorau'r byd.
"Dw i wrth fy modd fy mod i yn dychwelyd i Gymru i chwarae unwaith eto. Dw i'n gobeithio dod â fy mhrofiadau o Ffrainc yn ôl at y Dreigiau."
Dywedodd ei fod yn falch ei fod yn cael gweithio gyda Chyfarwyddwr y Dreigiau, Lyn Jones eto:
"Mae gen i lot o barch tuag ato a dw i'n edrych ymlaen at gael y cyfle i ddatblygu rhanbarth cystadleuol."
Chwarae i Biarritz y mae Aled Brew ar hyn o bryd. Ond mae o yn dychwelyd at ei hen glwb. Mae'n dweud nad ydy o yn difaru symud i Ffrainc gan ei fod wedi dysgu lot.
Tyfu fel clwb
"Ond dw i'n teimlo mai dyma'r amser cywir i fi a fy nheulu ddod adref," ychwanegodd.
Mae Lyn Jones wedi dweud bod arwyddo'r ddau ddyn yn newyddion da i'r clwb.
"Mae nifer yn y gêm sydd yn dweud mai Lee yw'r rhif 15 gorau ym Mhrydain. Mae ei arwyddo yn arwyddocaol ac yn mynd i'n helpu ni i dyfu fel clwb tra hefyd yn rhoi cyfle i ni ddatblygu Hallam Amos fel cefnwr posib i'r dyfodol ar gyfer Cymru."
"Mae Aled wedi dangos awydd i ddod yn ôl at Dreigiau Casnewydd. Roedd e yn boblogaidd iawn gyda'r cefnogwyr yn y gorffennol ac yn wych am sgorio ceisiau."
Straeon perthnasol
- Published
- 17 Rhagfyr 2012
- Published
- 12 Tachwedd 2013
- Published
- 17 Mehefin 2013
- Published
- 5 Rhagfyr 2012
- Published
- 22 Chwefror 2012