Ymosodiad Bethesda: Heddlu'n apelio am wybodaeth
- Published
Mae Heddlu'r Gogledd am wybod mwy gan dystion welodd ymosodiad ar ddyn lleol ym Methesda Ddydd San Steffan.
Digwyddodd yr ymosodiad rhwng 11.30yh ac oriau mân y bore canlynol wedi i'r dyn 25 oed fod yn cymdeithasu mewn tafarndai yn y dref.
Dywedodd y Cwnstabl Amy Williams: "Rywbryd wedi 11.30yh Ddydd San Steffan fe ymosododd rhywun ar ddyn lleol 25 oed ar Stryd Fawr Bethesda rhwng Tafarn y Bull a'r hen fanc HSBC.
"Fe ddaeth yr ymosodwr o'r tu ôl i'r dyn. Ar hyn o bryd, dydi o ddim yn gallu rhoi disgrifiad manwl o'r person sy'n gyfrifol am yr ymosodiad llwfr, direswm hwn. Fe dorrodd y dyn asgwrn ei ên.
"Roedd wedi treulio diwedd y prynhawn a min nos yn yfed yn y dref a chyn yr ymosodiad, roedd o wedi bod yn Nhafarn y Llangollen gerllaw.
"Hoffwn siarad ag unrhywun welodd yr ymosodiad neu sy'n gwybod pwy sy'n gyfrifol, yn enwedig, unrhywun welodd gymhelliant posibl i'r ymosodiad yn Nhafarn y Llangollen cyn hynny."
'Pla'
Ychwanegodd: "Mae troseddau treisgar yn bla ar ein trefi ac rydym ni wedi gwneud gwaith da i leihau nifer y digwyddiadau o'r fath.
"Rwy'n ffyddiog y gallwn ni ddod o hyd i'r troseddwr gyda chymorth y gymuned leol er mwyn sicrhau cyfiawnder a diogelu ein strydoedd.
"Hoffwn annog unrhywun oedd yn yr ardal ar y pryd, efallai yn dychwelyd adref wedi noson allan, i gysylltu â'r heddlu ar 101."
Gall unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111, a dyfynnu'r cyfeirnod RC14002951.