Dechrau dathliadau can mlynedd Sefydliad y Merched

  • Cyhoeddwyd
Baton SyMFfynhonnell y llun, North Shore Photography
Disgrifiad o’r llun,
Mae baton SyM yn teithio ledled y DU er mwyn dathlu canmlwyddiant y grŵp

Bydd baton yn mynd ar daith o amgylch y DU er mwyn dathlu canmlwyddiant Sefydliad y Merched.

Dechreuodd taith y baton ar Ynys Môn lle bu cyfarfod cyntaf erioed SyM yn Llanfairpwll yn 1915.

Ar 8 Ionawr pasiwyd y baton i Ffederasiwn Gwynedd-Caernarfon a bydd yn ymweld â phob un o'r 69 o ffederasiynau yn y DU cyn gorffen y daith ym Mehefin 2015.

Mae pob ffederasiwn yn trefnu digwyddiad gwahanol i ddathlu ymweliad y baton gyda'r nod o gynnwys cymaint o aelodau â phosibl yn y dathliad.

Bydd lluniau o'r daith yn cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Janice Langley, Cadeirydd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched: "Mae lansio'r prosiect cyntaf i ddathlu can mlynedd o Sefydliad y Merched yn gyffrous iawn.

"Rydym yn awyddus i glywed beth mae pob ffederasiwn wedi cynllunio ar gyfer eu digwyddiad dathlu, ond rwy'n sicr y cawn ein synnu gan ddyfeisgarwch a chreadigrwydd ein haelodau pan fyddant yn rhannu eu lluniau."

Bydd y baton yn gorffen ei daith yng nghyfarfod blynyddol Sefydliad y Merched ym mis Mehefin 2015 yn y Royal Albert Hall yn Llundain.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol