Ymosod ar ferched: carchar am oes i ddyn o'r Fflint

  • Cyhoeddwyd
Barry RosedaleFfynhonnell y llun, North Wales Police
Disgrifiad o’r llun,
Mi wnaeth Barry Rosedale herwgipio tair menyw gyda'r bwriad o'u treisio

Mae dyn ymosododd ar dair menyw gan gynnwys un oedd yn feichiog wedi ei garcharu am oes.

Roedd Barry Rosedale, 43, o Y Fferi Isaf, Sir y Fflint wedi ystelcian ar y merched ac yn bwriadu eu treisio.

Mi wnaeth e gyfaddef i geisio treisio, byrgleriaeth a chamdrin rhywiol. Clywodd y llys fod y merched wedi llwyddo i ymladd yn ôl neu ei dawelu.

Dywedodd y barnwr, Niclas Parry ei fod yn "yr hunllef waethaf" i unrhyw ferch fyddai yn cerdded adref ar ben ei hun yn y nos.