Carcharu dyn am dân mewn ffatri greision yng Nghrymlyn
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ei garcharu am chwe mlynedd a thri mis wedi iddo gyfaddef cynnau tân yn fwriadol mewn ffatri greision yn 2012.
Cyfaddefodd Colin Goulding, 31 oed o Abertyleri, Blaenau Gwent, iddo gynnau'r tân yn fwriadol yn ffatri Real Crisps yng Nghrymlyn lle oedd yn gweithio.
Roedd dros 100 yn gweithio yn y ffatri a chafodd dros 75% o'r adeilad ei ddifrodi.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod 20 o weithwyr wedi eu symud o'r ffatri pan ddechreuodd y tân ym mis Medi 2012 a bod angen 60 o ddiffoddwyr.
Gan fod rhan fwyaf o'r ffatri wedi ei ddifetha roedd perchnogion y ffatri, Tayto Group o Ogledd Iwerddon, wedi dweud y byddai'n rhaid diswyddo staff.
Cyfaddefodd Colin Goulding iddo daflu sigaret wedi ei danio i mewn i ran o'r ffatri lle doedd dim hawl ysmygu.
Clywodd y llys bod Goulding wedi mynd tu allan i ffilmio'r hyn ddigwyddodd, pan oedd yn gwybod bod ei rieni yn gweithio y tu mewn.
Cafodd 80 eu diswyddo yn sgil y tân.
Cafodd gweithwyr eraill eu hadleoli i safleoedd gwahanol.
Cwbl annerbyniol
Mewn datganiad, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod y tân wedi achosi rhagor o galedi i deuluoedd a chymunedau Blaenau Gwent mewn amser anodd, gan fod cymaint o bobl wedi colli eu swyddi.
Meddai Dewi Jones, pennaeth Uned Troseddau Tân y gwasanaeth: "Mae 78% o'r tanau 'dy ni'n delio â nhw ar hyn o bryd wedi eu cynnau'n fwriadol, sy'n gwbl annerbyniol. Gall trosedd ddifrifol fel hon effeithio ar yr holl gymuned.
"Bydd Uned Troseddau Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn parhau i gydweithio â'r heddlu er mwyn sicrhau cyfiawnder.
'Dy ni hefyd yn annog aelodau'r cyhoedd i roi cymorth i ni gadw eu cymunedau a'u teuluoedd yn ddiogel, drwy ddweud wrthon ni am unrhywun mae'n nhw'n credu sydd wedi cynnau tân yn fwriadol.
"Gall unrhywun alw'r uned yn rhad ac am ddim ar 0800 7317287, neu rhoi gwybodaeth i'r heddlu yn ddienw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd20 Medi 2012