IRB yn gwrthod cefnogi cystadleuaeth
- Cyhoeddwyd

Ni fydd y bwrdd rygbi rhyngwladol, yr IRB, yn cefnogi cystadleuaeth draws-ffiniol sydd heb ei chymeradwyo gan undebau rygbi.
Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd yr IRB eu bod yn pryderu am ddadlau sy'n parhau am ddyfodol rygbi Ewropeaidd.
Daw cyn cyfarfod Undeb Rygbi Cymru i drafod y goblygiadau petai'r rhanbarthau yn penderfynu gadael yr undeb.
Yn Lloegr, mae clybiau wedi tynnu'n ôl o'r Cwpan Heineken, ac mae cystadleuaeth Eingl-Gymreig wedi ei gynnig yn lle.
Dywedodd Cadeirydd yr IRB Bernard Lapasset: "Ni fydd yr IRB yn cefnogi unrhyw gystadlaethau traws-ffiniol sydd heb eu cymeradwyo gan undebau unrhyw glybiau sy'n cymryd rhan."
Cadarnhaodd hefyd bod angen caniatâd gan awdurdodau rygbi a'r gwledydd sy'n cynnal y gemau.
Mae safbwynt yr IRB wedi bod yn gadarn drwy gydol yr anghydfod, ond gall amseru'r datganiad hwn atal rhanbarthau Cymru, sy'n ffraeo gydag URC am arian, cytundebau chwaraewyr a chystadlaethau, rhag gadael yr Undeb.
Mae'r rhanbarthau wedi methu ag arwyddo cytundeb newydd gyda'r undeb, oedd i fod i gael ei gytuno arno erbyn diwedd 2013.
Dyma'r bennod ddiweddaraf mewn dadl sydd wedi bod yn rhygnu ymlaen ers i glybiau Lloegr a Ffrainc ddweud eu bod am sefydlu cystadleuaeth newydd yn lle'r Cwpan Heineken.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2014