Eikrem o Norwy yn ymuno ag Adar Gleision y Brifddinas

  • Cyhoeddwyd
Magnus Wolff EikremFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Dydy'r ffi am y chwaraewr 23 oed o Norwy heb gael ei ddatgelu.

Mae clwb pêl-droed dinas Caerdydd wedi arwyddo'r chwaraewr canol cae o Norwy, Magnus Wolff Eikrem.

Dydy'r ffi am y chwaraewr 23 oed heb gael ei ddatgelu, ond mae sôn bod y clwb wedi talu tua £2 filiwn amdano.

Mae Eikrem yn symud o glwb Heerenveen o'r Iseldiroedd ac yn ymuno â'r sgwad yn barod ar gyfer eu gêm Uwch Gynghrair yn erbyn West Ham ddydd Sadwrn.

Eikrem yw'r chwaraewr cyntaf i reolwr newydd clwb Dinas Caerdydd, Ole Gunnar Solskjaer, ei arwyddo ers iddo gymryd lle Malky Mackay yn ddiweddar.

Mae Eikrem eisoes wedi chwarae dan reolaeth Solskjaer pan roedd gyda chlybiau Manchester United a Molde.

Fe symudodd o glwb Molde at Heerenveen yn yr haf, ac mae wedi ymddangos ar y cae 13 o weithiau i'r clwb o'r Iseldiroedd

Roedd Eikrem ar lyfrau Manchester United o 2006 tan 2011, ac yn gapten y tîm ieuenctid ond ni chafodd gyfle i ymddangos gyda'r tîm cyntaf.

Fe chwaraeodd dros Norwy am y tro cyntaf ddwy flynedd yn ôl, ac erbyn hyn, mae wedi derbyn dros ddwsin o gapiau dros ei wlad.

Yn ôl Solskjaer, "Dwi'n adnabod Magnus ers sawl blwyddyn, wedi gweithio gyda fo yn Manchester United yn ogystal â'i arwyddo gyda Molde."

"Tra ro'n i yno, roedd yn rhaid i mi ei werthu gan mai fo oedd ein chwaraewr gorau - a rwan, dwi'n teimlo'n lwcus i allu'i arwyddo eto, ar gyfer Dinas Caerdydd, am bris rhesymol."

"Dwi'n gweld hyn fel arian sy'n werth ei wario. Mae'n chwaraewr technegol da iawn, gyda gweledigaeth arbennig. Mi fydd Magnus yn ychwanegu llawer i'r clwb ac mi fydd yn cymysgu'n dda gyda'r chwaraewyr canol cae yn y sgwad."