Tân mewn tŷ yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd y gwasnaeth tân eu galw toc wedi 8.20 bore Iau
Mae dau oedolyn a dau o blant wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ yng Nghaerdydd.
Y gred yw bod gwresogydd trydanol ar fai a bod y tân wedi'i gyfyngu i'r ystafell fwyta ar lawr gwaelod y tŷ dau lawr.
Fe gafodd Gwasanaeth Tân De Cymru eu galw tua 8.20 bore Iau i Blaisé Place yn ardal Lecwydd/Grangetown ac fe anfonwyd dau griw yno.
Yn ôl y Gwasanaeth Ambiwlans: "Fe gafodd parafeddyg mewn car ymateb brys a dau ambiwlans argyfwng eu hanfon i'r safle, ac fe gafodd dau oedolyn a dau o blant eu cludo i Ysbyty'r Brifysgol i gael eu harchwilio rhag ofn bod sgîleffeithiau."