Llys: Dynes yn cnoi rhan o gar yn Aberystwyth
- Published
Mae dynes yn euog ar ôl cnoi rhan o gar wedi dadl ar ochr y ffordd gyda thri o ddynion dieithr ar noson allan yn Aberystwyth.
Fe glywodd y llys bod Rhian Jeremiah, 26 oed, wedi gadael olion ei dannedd yn y Fiat 500 gwyn ac fe gafodd ei disgrifio fel y cymeriad Jaws yn ffilmiau James Bond.
Roedd Jeremiah o Aberteifi wedi gwadu achosi £220 o ddifrod troseddol i'r car.
Mae'r ddynes ddi-waith wedi derbyn gorchymyn cymunedol am 12 mis a bydd rhaid iddi fynychu 20 o sesiynau cymorth am gamddefnydd alcohol.
'Cnoi car'
Dywedodd yr erlynydd, Gerald Neave: "Fe wnaeth Jeremiah fynd draw at y criw yn y Fiat am 2yb ar ôl iddi fod yn yfed.
"Fe drodd yn ymosodol ac yn flin ond roedd y tri o bobl yn y car yn methu deall beth roedd yn ei ddweud ac fe wnaethon nhw yrru i ffwrdd.
"Roedden nhw wedi parcio y tu allan i fwyty tecawê pan gyrhaeddodd Jeremiah a cheisio agor drws ochr y teithiwr. "
Dywedodd perchennog y car, Selina Day sy'n 23 oed, ei bod wedi edrych i fyny drwy dô haul y car a gweld Jeremiah yn cnoi drwy'r ffram uwchben y drws.
Roedd y tri yn y car wedi'u synnu i glywed sŵn y metal yn crensho wrth i ddannedd Jeremiah dorri trwy dô eu car.
Noson goffa
Clywodd y llys bod Jeremiah wedi bod yn yfed mewn noson goffa i'w chyn gariad, Simon Jones, oedd wedi boddi oddi ar arfordir Aberystwyth.
Roedd hi'n dilyn ei symudiadau olaf y diwrnod fyddai wedi bod yn ben-blwydd iddo.
Yn ôl Ms Day: "Daeth i fyny at y car a cheisio rhwygo'r drws ar agor. Do'n i'n methu deall beth roedd hi'n ei ddweud, roedd hi wedi meddwi'n ofnadwy ac yn sarhaus.
"Roedd 'na 'chydig o ddadlau ac fe suddodd ei dannedd i ffram y car uwchben y ffenestr. Ro'n i'n gallu clywed y metal y crenshan.
"Do'n i heb weld y ddynes hon erioed o'r blaen. Doedd gen i ddim syniad am beth roedd hi'n siarad."
Yn amddiffyn, dywedodd David Folland bod yr achos "ddim yn hollol" fel yr olygfa gyda'r cymeriad 'Jaws' yn y ffilm James Bond.
"Roedd fy nghleient wedi meddwi y noson honno. Roedd hi'n amlwg mewn gofid."
Gwadodd y ddynes iddi achosi difrod troseddol ond cyfaddefodd iddi ymosod ar ddau heddwas oedd wedi cael eu galw i'r safle y noson honno i'w harestio.