100 o swyddi mewn cwmni ateb ffonau yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae canolfan alwadau yn Wrecsam yn creu mwy na 100 o swyddi yn 2014.
Dywedodd cwmni ateb ffonau Moneypenny y bydden nhw'n creu 30 o swyddi'n syth a'r gweddill yn ystod gweddill y flwyddyn.
Mae'r cwmni yn dweud eu bod wedi tyfu'n sylweddol, 500% yn fwy o alwadau dros gyfnod y Nadolig na'r un cyfnod y llynedd.
Ar hyn o bryd mae Moneypenny yn cyflogi 300 gyda rhai'n teithio i weithio yn Seland Newydd i ddelio gyda galwadau yn ystod amser y nos yn hemisffer y gogledd.
100 o swyddi
Daw'r cyhoeddiad diweddaraf wedi i'r cwmni greu 100 o swyddi yn 2013.
Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr eu bod wedi profi twf enfawr ar adeg ariannol anodd i eraill.
"Mae pob adran yn tyfu oherwydd nifer y cwmnïau mawr sydd eisiau ein gwasanaeth ateb ffonau neu wasanaeth derbynfa," meddai Glenn Jackson.
"Hyd yn oed dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd pan mae disgwyl i ffonau fod yn ddistaw roedd cynnydd ..."
Gweithio dramor
Dros flwyddyn yn ôl dechreuodd y cwmni yrru staff i weithio yn Auckland yn Seland Newydd dros dro.
Roedd dewis i bobl weithio shifftiau nos yng Nghymru neu symud i hemisffer y de dros dro.
Mae timau o bedwar o staff yn mynd i Auckland am chwe mis ar y tro a staff Wrecsam sy'n cymryd drosodd ar ddiwedd y dydd yng Nghymru.
Penderfynodd y cwmni yrru staff i ffwrdd oherwydd ymchwil oedd yn dangos sgil-effeithiau niweidiol gweithio shifftiau nos.
Fe all y gweithwyr newydd fod yn rhan o'r cynllun ar ôl cael eu hyfforddi, yn ôl y cwmni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2013
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2011