Cynigion Cyngor Caerdydd er mwyn ceisio arbed swyddi
- Cyhoeddwyd

Mi fydd Cyngor Caerdydd yn ystyried ffyrdd o arbed arian ac osgoi cael gwared â gweithwyr mewn cyfarfod ddydd Iau.
Oherwydd yr argyfwng ariannol mae'r cyngor wedi derbyn llai o arian gan y llywodraeth ac mae hyn yn golygu toriadau ariannol o tua £50m.
Ar hyn o bryd mae dros hanner cyllid yr awdurdod yn cael ei wario ar weithwyr ac mae'r cyngor yn cyfarfod er mwyn ceisio gwneud yn siŵr nad ydyn nhw'n gorfod cael gwared ar 200 o swyddi.
Mae arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Heather Joyce, wedi rhybuddio yn barod bod y sefyllfa'n golygu y bydd y gweithlu'n cael ei gwtogi'n sylweddol o 2014/15 ymlaen.
Newidiadau
Ond mae newidiadau i batrymau gwaith, sydd wedi eu hamlinellu mewn adroddiad, yn golygu y gallan nhw wneud arbedion o £4.9m. Mae hynny'n cyfateb i 194 o swyddi.
Mi allan nhw wneud hyn mewn nifer o ffyrdd sy'n cynnwys lleihau oriau gwaith o 37 i 36 awr yr wythnos.
Maen nhw'n cynnig rhoi'r gorau i dalu ffioedd i weithwyr proffesiynol o'r tu allan i'r Cyngor, a pheidio talu costau ar gyfer cyfweliadau ac adleoli staff.
Hefyd mi fydd taliadau'n dod i ben ar gyfer y pwyllgor sy'n trafod cyflogau i uwch swyddogion a phrif weithredwyr.
Os ydy'r pecyn yma o newidiadau yn cael eu cymeradwyo, mi fydd y Cyngor yn parhau gyda'r drefn sydd yn bodoli yn barod o ran amodau gwaith, oriau ychwanegol, gweithio yn nos a gweithio shifftiau a hynny am y tair blynedd nesaf.
Angen cydweithio
Mi fydd y 2,000 o weithwyr y cyngor sydd yn derbyn Cyflog Byw, yn cael eu heithrio o'r cynigion hyn oherwydd bod ymrwymiad gwleidyddol wedi ei wneud.
Mae'r Cynghorydd Joyce yn gobeithio bydd yr undebau yn cefnogi'r cynigion er mwyn iddyn nhw fedru cydweithio ar y newidiadau.
Meddai: "Ers mis Tachwedd rydym wedi bod yn cwrdd â'r undebau er mwyn cynnig rhywbeth sy'n mynd i amddiffyn cymaint o swyddi â phosib.
"Rydyn ni'n deall nad ydy unrhyw argymhelliad i dorri oriau gwaith yn mynd i gael ei groesawu.
"Ond rydyn ni'n ceisio sicrhau bod swyddi ddim yn cael eu colli wrth amddiffyn amodau gwaith ein staff cyn belled ag y medrwn ni yn yr hinsawdd ariannol anodd yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2013