Kyle Vaughan: rhyddhau bachgen heb gyhuddiad

  • Cyhoeddwyd
Kyle Vaughan
Disgrifiad o’r llun,
Does neb wedi gweld Kyle Vaughan ers Rhagfyr 30, 2012

Mae bachgen 15 oed gafodd ei arestio fel rhan o'r ymchwiliad i ddiflaniad Kyle Vaughan o Sir Caerffili wedi ei ryddhau heb gyhuddiad.

Cafodd y bachgen o Abercarn ei arestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Cafodd Mr Vaughan, sydd angen chwistrelliadau cyson o inswlin oherwydd clefyd siwgr, ei weld am y tro diwethaf ar Ragfyr 30, 2012 yn ardal Abercarn a Rhisga.

Yn ddiweddarach y noson honno cafwyd hyd i'w gar Peugeot 306 ar yr A467 rhwng Rhisga a Cross Keys, a dywedodd yr heddlu eu bod yn credu fod y car wedi bod mewn gwrthdrawiad.

Er gwaetha' apêl am wybodaeth, does neb wedi gweld Mr Vaughan ers hynny. Mae'r heddlu yn credu iddo gael ei lofruddio.

Flwyddyn wedi ei ddiflaniad, roedd apêl am wybodaeth unwaith eto gan ei rieni.

Dywedodd Alan Vaughan: "Beth sydd wedi digwydd iddo fe, dy'n ni ddim yn gwybod, ddim yn deall pam y cafodd e ei lofruddio.

"Mae ei ffrindiau i gyd wedi eu tristáu, mae ein teulu mewn gwewyr.

"Mae'r bobl sydd wedi brifo ein mab, neu sy'n gwybod beth ddigwyddodd iddo fe, ddim jyst wedi lladd ein mab, maen nhw'n fy lladd i a Mary."

Mae dau ddyn, 27 a 25 oed o'r Coed Duon, yn parhau i fod ar fechnïaeth oherwydd yr ymchwiliad.