Arestio bachgen wedi digwyddiad mewn ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 12 oed wedi cael ei arestio wedi digwyddiad yn Ysgol Gyfun Tasker Milward yn Hwlffordd ddydd Iau.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi eu galw yno am 1:50pm oherwydd bod dau blentyn yn achosi helynt ac yn ddifrïol.
Cafodd y bachgen ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o achosi difrod troseddol a throsedd yn erbyn y drefn gyhoeddus.
Hebryngodd plismyn ferch 13 oed o'r safle.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Benfro: "Daeth yr ysgol o hyd i dresmaswr ar y safle amser cinio ddoe. Dilynodd yr ysgol ei gweithdrefnau a galw'r heddlu.
"Aethpwyd â'r person o'r safle ac rydym yn deall iddo gael ei arestio."