Gwrthdystio yn erbyn bwriad i gau pyllau nofio yn Wrecsam
- Published
Mae rhwng 250 a 300 o brotestwyr yn cynnal gwrthdystiad y tu allan i Ganolfan pwll nofio Plas Madoc yn Wrecsam.
Maen nhw'n anhapus gyda chynlluniau Cyngor Sir Wrecsam i gau'r ganolfan.
Bwriad y cyngor yw cau'r ganolfan yma a chanolfan Waterworld yng nghanol y dre a chodi adeilad newydd yn eu lle.
Eisoes mae dros 1,300 o bobl eisoes wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu unrhyw son am gau'r canolfannau.
Ond mae'r cyngor yn dweud bod angen gwneud arbedion o £45 miliwn dros y pum mlynedd nesa'.
Mae'r awdurdod wedi bod yn adolygu 11 o gyfleusterau hamdden a chwaraeon y sir .
Mae cynnal a chadw'r canolfanau hamdden yn costio £1.8 miliwn. Ond os oes modd eu had-drefnu gallai'r cyngor arbed mwy na £2 filiwn dros bum mlynedd.
Straeon perthnasol
- Published
- 16 Rhagfyr 2013
- Published
- 29 Tachwedd 2013
- Published
- 11 Rhagfyr 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol