Dyled o hyd gan Gaerdydd gollodd £30m y tymor diwethaf
- Published
Collodd Clwb Pêl-droed Caerdydd £30 miliwn y tymor diwethaf yn ôl cyfrifon diweddara'r clwb.
Yn ystod y tymor hwnnw fe wnaeth yr Adar Gleision ennill dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair.
Mae cyfanswm dyled y clwb wedi codi i £118 miliwn, gyda £66 miliwn yn ddyledus i'r perchennog, Vincent Tan.
Ond mae cadeirydd Caerdydd, Mehmet Dalman, yn dweud eu bod ar y trywydd cywir i glirio'r holl ddyledion.
Dywedodd wrth BBC Cymru eu bod wedi "etifeddu lot o ddyledion" a'u bod yn y broses o'u clirio.
'Adeiladu'r garfan'
Ychwanegodd bod y perchennog o Malaysia wedi buddsoddi £150 miliwm yn y clwb ers 2010.
Mae peth o'r dyledion yn cael eu cyfnewid yn gyfranddaliadau.
"Unwaith y bydd y clwb heb ddyledion fe fyddan nhw mewn lle gwell i adeiladu'r garfan ac arwyddo chwaraewyr gwell," meddai.
"Mae'n bwysig ein bod yn unedig ar draws y clwb.
"Ddylai'r cefnogwyr ddim bod yn bryderus am faint y dyledion sydd wedi eu nodi.
"Rydym wedi wynebu hyn gyda'n llygaid ar agor."
Fe fyddai newid y dyledion yn gyfranddaliadau i'r perchennog yn golygyd y byddai gan Mr Tan 98% o berchnogaeth y clwb a dim dyledion.
"Os fyddwn ni'n parhau yn yr Uwch Gynghrair fydd ganddo ni ddim dyledion ac fe fyddwn yn cychwyn gwneud elw, sy'n golygu chwaraewyr gwell, pêl-droed gwell ac ati," meddai Mr Dalman.
Yn ôl y cyfrifon a gyflwynwyd i Dy'r Cwmnïau am y cyfnod hyd at Fai 31 2013, mae'n dangos bod y clwb wedi gwneud colledion o £30.9 miliwn - cynnydd o bron i £13 miliwn ar y flwyddyn flaenorol - ac roedd cyflogau yn atebol am £27 miliwn, cynnydd o £18.5 miliwn ar y flwyddyn flaenorol.
Dywedodd Tim Hartley, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr, bod arian yn mynd i ddod o ddangos y gemau ar y teledu a bod yr ail-frandio a chael stadiwm lawn ar gyfer y gemau yn siwr o helpu.
"Y ffordd gywir i glirio'r ddyled yw fod Vincent Tan am newid y dyledion i gyfranddaliadau,
"Mae angen i ni fel ymddiriedolaeth ofyn pam bod costau rhedeg y clwb wedi cynyddu cymaint â pryd fydd Vincent Tan yn gwneud yr hyn mae o wedi ei addo sef i newid y dyledion i mewn i gyfranddaliadau.
"Fe fydd hyn wedyn yn atyniadol i fuddosddwyr newydd, cael clwb heb ddyledion."
Straeon perthnasol
- Published
- 13 Awst 2013
- Published
- 23 Gorffennaf 2013
- Published
- 29 Gorffennaf 2013
- Published
- 16 Ebrill 2013